Mae Model Gofal Sylfaenol Cymru yn disgrifio sut y bydd gofal sylfaenol yn cael ei ailffurfio i gefnogi egwyddorion Cymru Iachach: Cynllun Hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ar lefel uchel, mae’r model newydd hwn yn ceisio: 

  • dosbarthu’r galw’n fwy cytbwys ar draws ystod ehangach o ddarparwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned leol 

  • cynllunio, datblygu a gwella gwasanaethau ar lefel glwstwr (grŵp lleol o ddarparwyr gofal iechyd) 

  • pwysleisio gofal a chymorth wedi’u seilio ar le, yn agosach at gartref pobl 

  • rhoi rôl ragweithiol i ddinasyddion ei chyflawni yn eu hiechyd eu hunain o ran atal, hunanofal a hunangyfeirio, yn ogystal â dylunio gwasanaethau lleol  

  • defnyddio data, datblygiadau digidol a thechnoleg i gefnogi’r newid hwn  

Mae bwlch rhwng y weledigaeth hon a sut gellir ei chyflawni’n ymarferol gan y rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn gweithio i fynd i’r afael â’r bwlch hwn.