Cysylltwyd â’r cyfranogwyr a gymerodd ran mewn cyfweliadau ar gyfer yr astudiaeth hon ym mis Chwefror 2022, ar ôl dwy flynedd o’r pandemig COVID-19. 

Dywedasant eu bod yn deall bod gwasanaethau iechyd dan bwysau cyn ac ers i’r pandemig ddechrau, ac roeddent yn cytuno ei bod yn bwysig blaenoriaethu pobl benodol. Deallwyd yn gyffredinol bod arian ac adnoddau’n gyfyngiadau. 

Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn achos pryder iddynt oedd cael eu gorfodi i ddilyn yr un broses i siarad â meddyg teulu, ni waeth beth fo’r rheswm dros gysylltu na’u cefndir iechyd unigol. 

Cawsant drafferth cysylltu trwy linellau ffôn prysur, a oedd yn dibynnu’n drwm ar yr hyn yr oedd rhai’n ei alw’n “siawns” neu ddyfalbarhad. Disgrifiodd rhai orfod ailddeialu i ymuno â’r ciw galwadau neu giwio am 20-50 munud bob tro yr oeddent yn galw, neu’r ddau. Roedd rhai yn credu ei bod yn fwy effeithlon ymweld â’r practis eu hunain. 

Soniodd un arall am geisio trefnu apwyntiad ar-lein, ac ail-lwytho’r dudalen we’n gyson “fel pan fyddwch chi’n prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd” i weld a oedd mwy o slotiau apwyntiadau wedi dod ar gael. 

Roedd dinasyddion yn teimlo bod practisiau wedi cyflwyno rhwystrau rhag cael mynediad ar adeg pan oedd arnynt ei angen fwyaf, pan oeddent yn cael mwy o drafferth ymdopi ac, yn aml, heb roi digon o ymdrech i’w rhybuddio o flaen llaw. 

Cefnogir ein canfyddiadau gan ganlyniadau arolwg a gomisiynwyd gan DSPP, a oedd yn gofyn i bobl yng Nghymru am eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau’r GIG, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021. Cymerodd 406 o ddinasyddion ran yn yr astudiaeth hon. Canfu’r canlynol: 

“Cafodd 52% broblemau wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd  
(ar-lein neu all-lein)” 

Y ddau brif reswm a roddwyd gan yr ymatebwyr oedd: 

“Anodd cael apwyntiad” - 108 o ymatebion 

“Methu cysylltu â’r feddygfa ar y ffôn” - 76 o ymatebion 

Atgyfnerthwyd y canfyddiadau hyn gan arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydeinig 2021 NatCEn, sef Bodlonrwydd y cyhoedd â’r GIG a gofal cymdeithasol 2021, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Arolygodd yr astudiaeth hon sampl genedlaethol gynrychioliadol (ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban) o 3,112 o bobl. 

“Y prif reswm a roddodd bobl dros fod yn anfodlon â’r GIG yn gyffredinol oedd amserau aros am apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty (65%)” 

“Pan ofynnwyd beth ddylai fod y blaenoriaethau pwysicaf i’r GIG yn eu barn nhw . . . [y brif flaenoriaeth oedd] ei gwneud yn haws i gael apwyntiad meddyg teulu (48%)”