Mae’r weledigaeth a amlinellir yn y model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru wedi’i seilio ar y ffaith bod unigolion yn derbyn gofal gan ystod ehangach o weithwyr proffesiynol, yn ddi-dor, ar draws ffiniau sefydliadol. Roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cytuno bod mynediad ehangach at wybodaeth yng nghofnod iechyd y meddyg teulu yn ganolog i ddarparu gofal diogel, effeithiol ac effeithlon. 

Roedd yn amlwg o’r rhanddeiliaid hynny sy’n cynrychioli gweithwyr iechyd proffesiynol nad ydynt yn gweithio ym maes ymarfer cyffredinol bod lefelau mynediad presennol yn amrywio ar draws proffesiynau ac ardaloedd daearyddol. 

Dywedodd fferyllwyr eu bod yn gallu cael at gofnod cryno ac y byddai mwy o fanylion yn eu helpu â’u rôl sy’n ehangu mewn gofal sylfaenol. Dywedodd gweithwyr ym maes deintyddiaeth ac optometreg nad oes ganddynt fynediad ar hyn o bryd a bod arnynt ei angen i ddarparu gofal mwy effeithiol a diogel. 

Dywedodd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru y bwriedir ymestyn mynediad at gofnodion cryno i ddeintyddiaeth ac optometreg. Mae hyn yn eithrio gweithwyr iechyd proffesiynol cymunedol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o hyd. Dywedodd yr holl gynrychiolwyr o’r grwpiau hyn mai rhannu gwybodaeth yw’r her fwyaf sy’n wynebu gwaith amlbroffesiynol. 

Canfuom fod mynediad gweithwyr iechyd proffesiynol cymunedol at gofnodion yn amrywio’n ddaearyddol. Er enghraifft, clywsom fod gan nyrsys ardal y siaradom â nhw mewn un clwstwr yn ne Cymru fynediad llawn at gofnodion, ond nid oedd mynediad gan rai mewn clwstwr cyfagos. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod mynediad yn cael ei reoli ar lefel practis unigol. 

Clywsom hefyd fod nifer o sgyrsiau am unigolyn yn digwydd rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i sefydliadau gwahanol (er enghraifft, rhwng meddygon teulu, parafeddygon, nyrsys ardal a therapyddion galwedigaethol), ond nad oes system i gofnodi’r hyn a ddywedwyd yn y drafodaeth.