Soniodd staff meddygfeydd am ganfyddiad cyhoeddus (a gadarnhawyd trwy ymchwil gyda dinasyddion, ymhlith ffynonellau eraill) nad oedd meddygfeydd yn gweld unrhyw un wyneb yn wyneb, er nad oeddent “byth wedi cau eu drysau”, mewn gwirionedd. 

Disgrifiodd practisiau sut roedd y pandemig wedi newid eu dulliau o drin apwyntiadau yn y ffyrdd canlynol: 

Cyn y pandemig: 

  • cynhaliwyd y rhan fwyaf o apwyntiadau wyneb yn wyneb, er bod rhai practisiau wedi symud i fodel ffonio yn gyntaf (a ddisgrifir yn adran 5.3) i reoli’r galw’n well 

  • roedd modd trefnu pob math o apwyntiadau ar-lein yn aml (o flaen llaw) a mynegodd rhai broblemau ynglŷn â dinasyddion yn trefnu’r apwyntiad anghywir er mwyn “cael troed yn y drws” 

Yn ystod y pandemig: 

  • cafodd pob apwyntiad ei frysbennu dros y ffôn yn gyntaf am resymau rheoli haint – cynhaliwyd ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn ddiweddarach gyda’r rhai yr oedd arnynt eu hangen ac nad oedd ganddynt symptomau COVID yn unig 

  • canfu practisiau a oedd wedi gwrthwynebu ymgynghoriadau ffôn cyn y pandemig eu bod yn gallu gwneud mwy nag oeddent wedi tybio trwy ymgynghoriadau ffôn – felly mae’n ymwneud cymaint nawr â rheoli’r galw â rheoli haint  

  • ataliodd y rhan fwyaf o bractisiau y gallu i drefnu apwyntiadau ar-lein pan ddechreuodd y pandemig oherwydd y symudiad i ddull ffonio yn gyntaf a’r angen i reoli pwy sy’n dod i’r practis a chynllunio capasiti o flaen llaw 

Gan edrych tua’r dyfodol: 

  • mae rhai practisiau’n dychwelyd yn araf i ganiatáu i bobl drefnu apwyntiadau ar-lein ar gyfer apwyntiadau arferol ac apwyntiadau a ysgogir gan ymgyrch iechyd, fel adolygiadau, profion ceg y groth, a brechiadau ffliw 

  • mae rhywfaint o bryder o hyd y bydd dinasyddion yn parhau i drefnu’r math anghywir o apwyntiad – mae un practis yn datrys hyn trwy drefnu bod rhywun yn gwirio apwyntiadau arferol i sicrhau mai dim ond y rhai hynny sy’n gymwys sy’n cael apwyntiad, ac os nad ydynt yn gymwys, cysylltu â’r unigolion hynny i wneud trefniadau eraill  

  • cydnabyddir yr angen am fodel cyfunol sy’n rhoi dewisiadau i ddinasyddion ynglŷn â sut maen nhw’n rhyngweithio â’u practis 

Dangosodd profiadau dinasyddion sut oedd practisiau, yn eu barn nhw, wedi cyflwyno newidiadau heb geisio esbonio na chynyddu ymwybyddiaeth o sut oedd systemau newydd yn gweithio. 

Roedd rhai pobl eisiau sicrwydd na fyddai defnyddio sianeli newydd (offeryn digidol, er enghraifft) yn eu rhoi dan anfantais o gymharu â’r rhai sy’n defnyddio’r ffôn. Os oeddent yn ansicr, byddent yn rhoi cynnig ar bob sianel neu unrhyw sianel y gallent. 

Roedd rhai pobl wedi ymdopi â hyn yn dda; dywedodd eraill fod y profiad wedi eu siomi ac, mewn rhai achosion, wedi gwneud iddynt deimlo’n ddig bod disgwyl iddynt addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau nad oeddent fel petaent wedi’u dylunio gyda chleifion mewn golwg. 

Mae effaith y newidiadau hyn wedi rhoi’r berthynas rhwng meddygon a chleifion dan straen. Clywsom ganmoliaeth wresog a phryder go iawn gan ddinasyddion ynglŷn â’r ffordd yr oedd practisiau’n rheoli eu gwasanaethau yn 2022, ac roedd sawl un a gyfwelwyd yn beio gwleidyddiaeth, cyni a newidiadau cymdeithasol am y diffyg cydweddiad rhwng y galw am feddygon teulu a’r cyflenwad ohonynt. 

Dywedodd un ei fod wedi’i “siomi ar yr ochr orau ac yn ddiolchgar” bod unrhyw un yn y practis wedi ymateb i’w gais yn gynnar yn y pandemig. Roedd un arall wedi cynhyrfu’n amlwg oherwydd y broses a gyflwynwyd yn ystod yr un cyfnod mewn practis yn yr un ardal o Gymru: 

“Ni allaf siarad â meddyg – sut mae hyn yn bosibl? Mae’n cael ei gwneud mor anodd â phosibl; mae gennych chi gyfle 15 munud i geisio cael apwyntiad. Roedd [y practis] ar gau am 4-5 diwrnod yn ystod cyfnod y Nadolig.”
- Dinesydd

Mewn cyfweliadau â phractisiau, clywsom o’u safbwynt nhw sut maen nhw’n gweithio’n galed iawn i ymdopi yn ystod cyfnod heriol a chydag adnoddau prin. Mae rhai staff practis yn gobeithio y bydd cleifion yn cydweithredu, gan fynegi rhwystredigaeth weithiau nad yw pawb yn deall beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. 

Mae hefyd yn glir o ddinasyddion a rhai meddygon teulu y siaradom â nhw fod llawer o feddygon wedi addasu eu hiaith a’u prosesau’n fwriadol i ddarparu cymorth emosiynol, therapiwtig ac ymarferol pan fyddant wedi sylwi bod rhywun mewn angen. Pwysleisiodd ein gwaith ymchwil ba mor bwysig ydyw i ddefnyddio iaith a phrosesau y mae dinasyddion yn eu deall ac i ddarparu cymorth emosiynol a therapiwtig, yn ogystal â chlinigol. 

Clywsom droeon nad oedd rhai offer digidol yn bodloni anghenion amrywiol defnyddwyr, gan gynnwys effeithlonrwydd sylfaenol ac opsiynau priodol ar gyfer mathau penodol o geisiadau. 

Roedd un offeryn ymgynghori ar-lein yn arbennig o feichus, gan ofyn “yr un cwestiwn pum gwaith”. Nid oedd ychwaith yn darparu llwybrau ar gyfer tasgau safonol fel trefnu apwyntiadau dilynol, gan ganiatáu opsiynau ‘ie/na’ yn unig ar gyfer atebion pan fyddai gwahaniaeth cynnil wedi bod yn ddefnyddiol.