Mae cofnod iechyd dinesydd a ddelir gan feddyg teulu yn cynnwys gwybodaeth fwy cyfoethog nag unrhyw fath arall o gofnodion iechyd, o ganlyniad i rôl ganolog ymarfer cyffredinol mewn cysylltiadau dinasyddion â’r system iechyd ar hyd eu hoes. Fel y cyfryw, mae’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif iawn. Mae pawb yn cytuno y dylai mynediad ato gael ei reoli’n ofalus. 

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi’r hawl i unigolion gael mynediad at eu cofnodion iechyd eu hunain. Maen nhw’n cael mynediad trwy gais ffurfiol i’r practis, ac mae’r wybodaeth a drosglwyddir yn gipolwg a gymerwyd ar yr adeg honno. 

Bu’n bosibl i ddinasyddion gael mynediad at grynodeb o’u cofnod iechyd ar-lein ar sail barhaus ers peth amser. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddinasyddion am: 

  • eu cyflyrau neu ddiagnosis 

  • eu meddyginiaethau 

  • eu halergeddau 

  • eu himiwneiddiadau 

  • canlyniadau eu profion 

  • eu gwerthoedd (er enghraifft, pwysedd gwaed) 

  • gwybodaeth sylfaenol am weithdrefnau, atgyfeiriadau ac ymgynghoriadau 

  • eu demograffeg 

Gall dinasyddion ofyn i’w practis am gael y mynediad ar-lein hwn at eu cofnodion cryno. Gall practisiau unigol hefyd ddewis sicrhau bod y mynediad hwn ar gael yn rhagweithiol i ddinasyddion cofrestredig ar sail unigol neu ehangach. Dim ond tri o’r practisiau a gyfwelom oedd wedi gwneud hynny. Mae hyn yn enghraifft o fynediad ar gyfer dinasyddion sy’n amrywio ledled Cymru. 

Amlinellodd cyfweliadau â staff practisiau a’r rhai hynny â diddordeb mewn gwasanaethau meddyg teulu yr heriau a’r buddion posibl sy’n gysylltiedig â darparu mynediad o ryw fath at gofnodion ar-lein i bob dinesydd. 

Roedd yr heriau’n cynnwys y canlynol: 

  • mae’r meddyg teulu’n gyfrifol yn gyfreithiol am y data ac yn ysgwyddo risg unrhyw achosion o fynediad diawdurdod at ddata  

  • mae sgrinio cofnod iechyd llawn i olygu unrhyw wybodaeth na ddylent ei rhannu yn rhoi baich gweinyddol ar feddygon teulu  

  • mae’n anodd penderfynu pwy ddylai gael mynediad at y cofnod iechyd ac ym mha amgylchiadau 

  • gallai unigolion sy’n cysylltu â’u practis i holi ynghylch y wybodaeth mewn cofnodion neu ei herio gynyddu’r galw 

  • gallai cynnwys cofnod achosi i ddinasyddion wneud cwynion neu gymryd camau cyfreithiol 

  • gallai unigolion gael at wybodaeth sy’n achosi llawer o ofid iddynt 

  • gallai pobl sydd mewn perthynas orfodaethol fod mewn mwy o berygl o niwed os bydd partner camdriniol yn cael mynediad at y cofnod iechyd ac yn gweld bod y gamdriniaeth wedi cael ei datgelu i weithiwr iechyd proffesiynol  

Roedd y buddion yn cynnwys y canlynol: 

  • mae’r wybodaeth am yr unigolyn a dylai fod ar gael iddo fel mater o egwyddor 

  • gall mynediad at gofnodion iechyd helpu unigolion i fod yn fwy rhagweithiol o ran eu hiechyd a’u gofal eu hunain, sy’n cefnogi model gofal sylfaenol Cymru  

  • potensial i unigolion ddewis gyda phwy maen nhw’n rhannu gwybodaeth, gan roi mwy o reolaeth iddynt a gwella canlyniadau iechyd mewn sefyllfa lle nad oes gan weithiwr proffesiynol fynediad at y wybodaeth honno a byddai meddu arni’n golygu gofal mwy diogel ac effeithlon 

  • llai o alw ar feddygfeydd, er enghraifft gan unigolion sy’n gwirio canlyniadau profion, cofnodion brechlynnau neu hanes meddygol ar eu cyfer nhw eu hunain  

  • caniatáu i unigolion sylwi ar wallau yn eu cofnodion eu hunain, a allai fod wedi effeithio ar y gofal a gânt, yswiriant neu gyfleoedd am swyddi  

Dim ond tri o’r meddygfeydd a oedd yn rhan o’r astudiaeth hon oedd wedi galluogi eu holl gleifion cofrestredig i gael mynediad at gofnodion cryno. Nid oedd y meddygfeydd hyn wedi sylwi ar unrhyw alw ychwanegol nac anfanteision eraill yn sgil galluogi rhannu cofnodion. Fodd bynnag, gwnaethant gydnabod bod ymwybyddiaeth dinasyddion o’r mynediad yn lleiafsymiol, ac nid oeddent yn sicr faint o gleifion oedd yn ei ddefnyddio. 

Gofynnom i’r dinasyddion a gymerodd ran a oedd ganddynt ddiddordeb mewn gweld eu cofnodion meddygol, ond roedd deuoliaeth teimlad yn ei gylch yn gyffredinol. Er eu bod yn credu ei bod yn synhwyrol gwybod eu hanes iechyd, roedd ganddynt amheuon ynglŷn â gweld unrhyw beth annisgwyl neu a fyddai’n peri iddynt herio pa mor agored oedd eu meddyg teulu. 

Ni wnaethom ofyn yn uniongyrchol ynglŷn ag ymwybyddiaeth o’r GDPR a hawliau cleifion i weld y data a ddelir amdanynt, ond roedd atebion tri o’r cyfranogwyr yn dangos ymwybyddiaeth o hawliau a chydymffurfio a gafwyd trwy eu gwaith. 

Pan ofynnwyd iddynt am berchnogaeth ar gofnodion iechyd, roedd dinasyddion yn credu’n gryf fod gan bractisiau gyfrifoldeb i gynnal, storio a diogelu eu cofnodion. Roeddent yn teimlo y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’u gofal – fel deintyddion, fferyllwyr, optometryddion a ffisiotherapyddion – allu cael at wybodaeth berthnasol yn unig o’u cofnodion ar sail achosion unigol. Roeddent yn disgwyl cael gwybod am unrhyw geisiadau gan drydydd partïon i gael at eu cofnodion.