Cyfwelom â 14 o ddinasyddion ledled Cymru, a recriwtiwyd gan asiantaeth arbenigol ac a sgriniwyd am amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys grŵp oedran, rhywedd, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd, a sgiliau Cymraeg. 

Roedd y sesiynau ymchwil hyn yn cynnwys cyfran uwch o bobl a adroddodd fod ganddynt iechyd gwael ac anabledd nag a welir yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn ddull sefydledig ar gyfer deall pobl ag anghenion mwy cymhleth. 

Ni allwn rannu mwy o fanylion yma am resymau cyfrinachedd, oherwydd gallai hynny arwain at adnabod yr unigolion dan sylw. 

Siaradom â meddygon teulu a staff meddygfa ym mhob bwrdd iechyd, trwy gyfweliadau 60-90 munud â 23 o gyfranogwyr. Amlygwyd yr unigolion hyn trwy gyfathrebu â’n rhwydweithiau a gofyn iddynt lenwi ffurflen i fynegi diddordeb. Roedd hyn wedi caniatáu i ni ddewis cyfranogwyr sy’n adlewyrchu cymysgedd o nodweddion, fel practisiau trefol/gwledig a bach/canolig/mawr, yn ogystal â lefelau amddifadedd yn nalgylch y practis. 

Mae’r tablau isod yn dangos dadansoddiad o’r practisiau a’r staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw.

Rôl Nifer
Meddyg teulu 7
Rheolwr practis  12
Staff gweinyddol 1
Arall 3
Maint y practis  Nifer
Bach  3
Canolig 15
Mawr 5
Dalgylch  Nifer
Trefol 14
Gwledig 9
Practisiau mewn ardaloedd o amddifadedd Nifer 
Ardal o amddifadedd 5
Ardal na ystyrir ei bod yn ardal o amddifadedd 18

Gwnaethom adolygu gwaith ymchwil arall, gan gynnwys astudiaethau meintiol (casglu a dadansoddi data rhifiadol), i gryfhau’r canfyddiadau o’r samplau bach a ddefnyddiom. Defnyddiwyd yr astudiaethau eraill hyn i driongli (cymharu’r canfyddiadau) â’n gwaith ymchwil cynradd ein hunain. 

Siaradom hefyd â sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol, i ddysgu am eu gwaith a’u safbwyntiau ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau meddyg teulu a dinasyddion. Roedd y rhain yn cynnwys: 

  • Llywodraeth Cymru 

  • Y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol  

  • Byrddau iechyd lleol 

  • Clystyrau gofal sylfaenol 

  • Cynghorau iechyd cymuned 

  • Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru  

  • Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol  

  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

  • Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Cymru 

  • Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 

  • Cynrychiolwyr gweithwyr proffesiynol iechyd cymunedol a pherthynol i iechyd  

  • Menter gymdeithasol 

  • Darparwyr digidol masnachol