Defnyddio’r wefan hon

Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau

  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin

  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw ffurf rhai negeseuon gwall yn ddigonol

  • nid oes gan rai negeseuon gwall ddigon o gyferbyniad

Adborth a manylion cyswllt

Mae’r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

e-bost: info@digitalpublicservices.gov.wales

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â  info@digitalpublicservices.gov.wales

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y ŵe fersiwn 2.2 - Safon lefel AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canolynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Methodd meini prawf llwyddiant: 3.3.3 Awgrym Gwall (lefel AA)

Mater: Pan fydd defnyddwyr yn cyflawni gwall yn y maes ffurflen ar is-set o’n ffurflenni, nid yw’r trin gwall yn ddigonol i alluogi’r defnyddiwr i adnabod y gwall neu’r hyn sy’n ofynnol ganddynt i unioni’r camgymeriadau.

Methodd meini prawf llwyddiant: 1.4.3 Cyferbyniad (lleiafswm) (Lefel AA)

Mater: Mae’r testun neges gwall yn methu cwrdd â chanllawiau WCAG 2.2 ar gyfer isafswm cyferbyniad. Gall y mater hwn effeithio ar ddefnyddwyr golwg isel nad ydynt efallai’n gallu gwahaniaethu rhwng y testun Llwyd golau ar cefndir gwyn.

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Mai 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 1 Chwefror 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 30 Ionawr 2024 yn erbyn safon WCAG [2.2] AA.

Cynhaliwyd y profion hygyrechedd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol. Profwyd y wefan gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan gynnwys AXE, ARC Toolkit, ac WAVE, ynghyd â phrofion a llaw gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol fel JAWS, NVDA, meddalwedd darllen sgrin TrosLais, meddalwedd actifadu llais Dragon ac offer dadansoddi cyferbyniad lliw.

Profwyd cyfuniad o dempledi craidd, templedi â ddefnyddir yn gyffredin, a thempledi cymhleth.

Profwyd:

Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU archwiliad o sampl gynrychioliadol o’n tudalennau, lle nodwyd a phennwyd nifer o faterion hygyrchedd cyffredin.