Mae cynfas cynnig gwerth yn disgrifio'r gwerth a gynigir gan y gwasanaeth mewn geiriau syml iawn.

Mae'r cynfas cynnig gwerth yn fframwaith sy'n helpu dylunwyr i sicrhau bod ffit rhwng y gwasanaeth cynnyrch a'r defnyddwyr.  

Mae'r berthynas rhwng anghenion, pwyntiau poen a thasgau'r defnyddiwr yn cael eu cydbwyso yn erbyn cynnig gwerth y gwasanaeth.

Llun o gynfas cynnig gwerth

Ffynhonnell: B2B International

Dylai'r gwasanaeth ddiwallu anghenion y defnyddiwr drwy gynnig 'lleddfu poen' a 'chreu enillion'.

Pryd i'w ddefnyddio

Defnyddir cynfas cynnig gwerth yn aml i ddilysu a mireinio cysyniad cyn symud ymlaen gyda datblygu neu wneud y gwasanaeth yn fyw.

Mae'r fideo YouTube byr hwn yn dweud mwy wrthych chi am Gynfas Cynnig Gwerth.