Mae persona yn ddull i adrodd stori math o ddefnyddiwr, yn seiliedig ar gymhellion, ymddygiadau ac anghenion a rennir.

Gellir cyfeirio at personas hefyd fel:

  • archdeipiau dynol  
  • archdeipiau ymddygiadol (pan fydd y persona yn canolbwyntio ar ddal ymddygiadau gwahanol) 
  • proffiliau defnyddwyr

Pryd i ddefnyddio personas

Mae personas yn declyn gwych i gyfeirio ato wrth wneud penderfyniadau am eich gwasanaeth neu gyfathrebu anghenion defnyddwyr i randdeiliaid.  

Maen nhw'n helpu i'ch atgoffa o bwy rydych chi'n dylunio'r gwasanaeth ar ei gyfer, a'u heriau a'u hanghenion.  

Mae'r canllaw byr, cam wrth gam hwn i greu personas defnyddiwr gan UX Planet yn ddull defnyddiol i ddechrau creu personas.