Yorath Turner

Ymgynghorydd

Yorath yw Dirprwy Gyfarwyddwr, Pobl Ddigidol, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol yn Llywodraeth yr Alban. Mae'n arwain ar ddatblygu'r proffesiwn digidol, data a thechnoleg, yn ogystal â mentrau ar gyfer adeiladu sgiliau digidol a chynyddu amrywiaeth ar draws sector cyhoeddus yr Alban. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen Academi Ddigidol yr Alban, gan ddarparu hyfforddiant i staff y sector cyhoeddus yn yr Alban.

Jenni Taylor

Ymgynghorydd

Jenni Taylor yw perchennog gwasanaeth cyhoeddi yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil, bu'n gweithio mewn timau digidol addysg uwch, gan arwain tîm o ddylunwyr cynnwys ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth mewn dylunio cynnwys a chyhoeddi digidol.

Chris Owen

Ymgynghorydd

Mae Chris yn brofiadol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol ar lefel leol a chenedlaethol. Ar ôl treulio 14 mlynedd yn datblygu gwasanaethau digidol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ymunodd Chris â Llywodraeth Cymru i arwain cyflwyno Hwb, platfform dysgu digidol i Gymru. Yn 2021, ailymunodd Chris â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Prif Swyddog Digidol, lle mae'n hyrwyddo'r defnydd arloesol ddigidol, data a thechnoleg i drawsnewid profiad y cyhoedd a defnyddwyr y staff.

Ignacia Orellana

Ymgynghorydd

Mae Ignacia yn arbenigwr dylunio gwasanaethau gyda phrofiad yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae ganddi brofiad o ddatblygu cymunedau gwasanaeth, ar ôl dylunio gwasanaethau cymhleth i gefnogi defnyddwyr trwy Brexit a COVID-19. Mae hi hefyd yn angerddol am ddylunio gwasanaethau hygyrch a chreu timau amrywiol.

Dr Hushneara Miah

Ymgynghorydd

Mae Hushneara yn arbenigwr pwnc mewn caffael cynaliadwy a rheoli'r gadwyn gyflenwi gyda ffocws ar garbon isel. Hi yw cyfarwyddwr y Ganolfan Gynaliadwyedd, sefydlodd i fod yn gatalydd mewn meysydd fel rheoli'r gadwyn gyflenwi, yr economi gylchol, sero net a llythrennedd carbon.

Heledd Evans

Ymgynghorydd

Mae Heledd yn rheolwr digidol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’n arwain tîm o gyfieithwyr ac arbenigwyr dylunio a digidol. Mae ganddi brofiad o gyfathrebu a rheoli gwasanaethau digidol dwyieithog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Andy Adams MBE

Ymgynghorydd

Mae Andy yn gyn-brif uwcharolygydd gyda Heddlu Gwent sydd wedi arwain ar dechnoleg gorfodi'r gyfraith ar draws y DU ac Ewrop ac mae'n aelod amlwg o gymuned y gwasanaethau brys. Mae Andy wedi arwain ar brosiectau newid a mentrau ar y cyd yn y sector preifat a chyhoeddus ac mae'n cefnogi uwch arweinwyr yn y meysydd hynny.

Ashley Bale

Ymgynghorydd

Datblygodd Ashley y tai SMART byw â chymorth cyntaf ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn y DU. Mae'n rhedeg Tech4good Cardiff, cymuned sydd â diddordeb mewn technoleg ar gyfer effaith gymdeithasol gadarnhaol. Mae ganddo brofiad o ddarparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau ac mae'n angerddol am gynhwysiant digidol.

Sam Ali

Sam Ali

Aelod o’r bwrdd

Mae Sam yn Ymgynghorydd Rhaglen Ddigidol gyda Cwmpas. Ym maes SaaS (software as a service/meddalwedd fel gwasanaeth) mae ei chefndir, yn gweithio gyda phob math o sectorau, yn fwy diweddar, rheoli prosiectau digidol llywodraeth leol. Y maes sy'n mynd â bryd Sam yw sgiliau digidol a chynhwysiant ac mae wedi dod o hyd i sawl ffordd o weithio yn y meysydd hyn. Yn ddiweddar, cafodd Sam secondiad fel Swyddog Llythrennedd y Cyfryngau yn gweithio ar brosiect ymchwil yn ymwneud â llythrennedd yn y cyfryngau.

Myra Hunt

Myra Hunt

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Myra yn Brif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Harriet, yn arwain CDPS.

Mae Myra, ynghyd â Harriet, yn cysylltu ag arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru i greu partneriaethau, sydd wedyn yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd, i wella gwasanaethau digidol i bobl ledled Cymru.