Digidol ac Ystwyth: y seiliau

Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw i ddysgu yn eich pwysau. Dysgu hanfodion ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith.

Joanna Goodwin

Joanna Goodwin

Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Mae Joanna’n gweithio’n agos ar draws pob prosiect a gwasanaeth i sicrhau bod defnyddwyr wrth wraidd dylunio a gwneud penderfyniadau.

Mae Jo yn cefnogi sector cyhoeddus Cymru i gysylltu â’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallau anghenion defnyddwyr ac anghenion y busnes.

Peter Thomas

Peter Thomas

Pennaeth Sgiliau a Gallu

Peter sy’n arwain y gwasanaeth dysgu sgiliau digidol i feithrin sgiliau trawsnewid digidol a hyder staff mewn rolau presennol a chefnogi’r rhai sydd am symud i wasanaethau cyhoeddus digidol Cymru.

Edwina O’Hart

Edwina O’Hart

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae Edwina yn arwain y tîm cyfathrebu sy’n gweithio ar draws ein holl dimau gwasanaeth gan gynnwys safonau, hyfforddiant, digwyddiadau a darpariaeth yn ogystal a’n gweithrediadau mewnol.

Mae tîm Edwina yma i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i weithio yn agored, i adrodd y stori am fanteision gweithio mewn ffordd Ystwyth, a’u helpu i wneud cysylltiadau buddiol i'r ddwy ochr drwy ein digwyddiadau a’n cymunedau.

Ben Summers

Ben Summers

Aelod o’r bwrdd

Mae Ben yn beiriannydd meddalwedd ac entrepreneur. Mae'n gyd-sylfaenydd Haplo, platfform ar gyfer darparu gwasanaethau digidol yn gyflym. Arweiniodd dîm technoleg a'i defnyddiodd i drawsnewid gweinyddiaeth ymchwil mewn prifysgolion ledled y byd. Ei ddiddordebau proffesiynol yw trawsnewid digidol, diogelwch gwybodaeth ac amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y diwydiant dechnolegol.

Andrea Gale

Andrea Gale

Aelod o’r bwrdd

Andrea yw Cyfarwyddwr Newid Digidol a Busnes Linc Cymru. Mae ei phrofiad yn y sector tai yn cynnwys cynllunio strategol, datblygu busnes a dylunio gwasanaethau. Mae Andrea yn eiriolwr dros wasanaethau digidol i gefnogi cyfle cyfartal yng Nghymru a llwyddiant economaidd y genedl.