Beth yw’r broblem?

Mae ein hymchwil wedi canfod bod lleihau dyblygu a symud tuag at wasanaethau a rennir ar draws y sector cyhoeddus yn ffordd bwysig o leihau allyriadau. 

O fewn ac ar draws sefydliadau, mae timau’n aml wedi’u hynysu oddi wrth ei gilydd, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ailddefnyddio gwaith a wnaed mewn mannau eraill.

 

“Mae angen i chi gael yr hawl i arbenigedd, y sgiliau a’r galluoedd cywir yn y gofod technoleg ddigidol hwnnw i allu pensaernïo a dylunio gwasanaethau o’r cychwyn cyntaf sy’n ystyried yr holl bethau hyn. Mae ceisio gwneud hynny ar draws nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru 10 gwaith yn anoddach na chanoli llawer o’r swyddogaethau hynny a’u cyflawni mewn un man.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn gweinyddiaeth ganolog

Nid syniad newydd yw gweithio ar y cyd ar fodelau darparu gwasanaethau a rennir (mae’n ymddangos ar fap trywydd Sero Net Cymru ar gyfer 2022-2026) ond dyma syniad sydd â chyfle o gael effaith fawr, o’i wneud yn dda.

Rydym wedi nodi bod angen i sefydliadau ddeall yr holl wasanaeth a’r system er mwyn pennu gwir effaith gadarnhaol neu negyddol eu gwaith ar allyriadau carbon. 

“Mae angen i ni ystyried craffu ar y gorwel, gan edrych ar beth sy’n gweithio mewn mannau eraill, a cheisio gwneud yr un peth i weld a fyddai’n addas i ni.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn awdurdod lleol

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon: 

Dyblygu cynnyrch a gwasanaethau 

Deall yr ôl troed ledled y gwasanaeth cyfan 

Datrysiadau posibl

Yn aml, amlygwyd manteisio ar gydweithio ar draws timau a gwasanaethau, mewn trafodaethau am arferion gorau. Ystyriwyd bod effeithlonrwydd y sefydliad a’r system yn hanfodol er mwyn mynd y tu hwnt i enillion sero net yr adran a thuag at enillion sero net cyffredinol y sefydliad. 

Mae hyn yn arbennig o bwysig gan ei bod yn debygol iawn y bydd y defnydd o ynni ar gyfer digidol yn cynyddu wrth i wasanaethau ledled sefydliadau’r sector cyhoeddus droi at ddatrysiadau digidol i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.

Bydd yn hanfodol sicrhau bod digidol yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon, gan osgoi dyblygu ar draws gwasanaethau, ac ailddefnyddio cydrannau datrysiadau yn ogystal â data digidol a gesglir. 

Ystyriwyd mai rhan fawr o alluogi’r gwaith trawsffiniol hwn oedd mabwysiadu dull seiliedig ar systemau o ddylunio a darparu gwasanaethau. 

Gallai dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon gynnwys: 

  • galluogi cydweithio ar arferion digidol cynaliadwy ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus 
  • mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar systemau i ddarparu gwasanaethau 
  • cymhwyso meddylfryd systemau ac arferion peirianneg systemau  
  • cynyddu amrywiaeth ymhlith timau prosiectau