Beth yw’r broblem?

Nid oes ffordd glir a hawdd o werthuso’r ôl troed sydd gan wasanaeth digidol. Daeth hyn i’r amlwg fel rhywbeth sydd ei angen yn yr ymchwil defnyddwyr ac roedd yn eitem ar frig rhestr dymuniadau tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy (STAR) llywodraeth y DU.

“Nid oes unrhyw fodelau ar gael ar hyn o bryd i gyflenwyr eu defnyddio’n gyson i briodoli ôl troed carbon i’w gwasanaethau.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg ym maes iechyd a gofal
“Byddai’n helpu â gwneud penderfyniadau pe gallem fesur effeithiau digidol yn erbyn yr annigidol. Dwi ddim yn hoffi dweud, o wel, mae’n debygol o fod yn well, dwi’n hoffi gallu profi hynny.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn gweinyddiaeth ganolog

Mae dulliau ôl troed carbon eraill ar gael sy’n creu allyriadau o fewn y sector cyhoeddus, a theimlwn fod cyfle i archwilio sut mae’r rhain yn trosi i ddigidol, a datblygu fframwaith ar gyfer yr hyn sydd angen ei gynnwys yn yr ôl troed a sut i’w fesur.

Bydd gallu mesur yr ôl troed sydd gan wasanaeth digidol yn helpu gweision cyhoeddus o ran: 

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon: 

Deall yr ôl troed carbon sydd gan wasanaeth digidol

Datrysiadau posibl

Yn ein trafodaeth â’r tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy, daeth i’r amlwg bod mesur yr ôl troed carbon llawn sydd gan wasanaeth digidol yn parhau i fod yn rhywbeth y mae hyd yn oed yr ymarferwyr gorau yn ei chael yn anodd. Yn 2019, ceisiodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) wneud hyn fel y disgrifir ym Mesur effaith gwasanaethau digidol GDS ar yr hinsawdd, ond cafwyd rhwystrau oherwydd nid oedd y wybodaeth angenrheidiol ar gael neu roedd yn anodd ei chael. 

Ers 2019, mae darparwyr gwasanaethau cwmwl cyhoeddus mawr wedi cyhoeddi neu ryddhau offer adrodd ar ôl troed carbon ar eu dangosfyrddau gwasanaethau, gan wneud gwasanaethau cyhoeddus a gynhelir gan gymylau yn haws eu gwerthuso. 

Er hynny, dangosir dim ond rhan o ôl troed cyffredinol y gwasanaeth digidol, gan nad yw dyfeisiau cleient (e.e. ffôn symudol, gliniadur) a thramwy ar y rhyngrwyd (rhwydweithiau diwifr a chebl) wedi’u cynnwys. 

Dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon:

  • darparu safonau ar gyfer mesur ôl troed carbon digidol 
  • darparu enghreifftiau o fesur yr ôl troed sydd gan wasanaeth o un pen i’r llall, ar draws sianeli 
  • darparu canllawiau ar fesur yr ôl troed hinsawdd sydd gan systemau TG etifeddol 
  • darparu canllawiau ar gymharu’r effaith ar yr hinsawdd sydd gan wasanaethau digidol yn erbyn gwasanaethau all-lein