Beth yw’r broblem?

Yn ein hymchwil yn ymwneud â pholisi a’n trafodaethau â gweision cyhoeddus, amlygwyd y cyfle i gaffael cynhyrchion a gwasanaethau digidol mewn ffordd sy’n cefnogi llai o allyriadau carbon.

“Ein camau nesaf fydd pethau fel…gofyn o fewn caffael os oes ganddynt strategaeth amgylcheddol. Beth maen nhw’n ei wneud am achrediadau a phethau felly? Efallai nad yw rhai o’r pethau hyn yn feini prawf asesu, ond gallent fod yn feini prawf perfformiad ar gyfer y contract.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn iechyd a gofal

Soniodd gweision cyhoeddus am yr heriau o ran cael mynediad at ffrydiau digonol o gyllid i archwilio a darparu technolegau newydd a gwasanaethau digidol newydd.

“Efallai eich bod wedi rhoi rhywbeth ar waith yn allanol gan ddefnyddio arian allanol, ond ceir goblygiadau o ran refeniw parhaus bob amser, ac nid wyf yn credu bod hynny’n cael ei godi na’i amlygu digon pan fyddwch chi’n dod â phethau i mewn.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn awdurdod lleol

Soniwyd hefyd nad oeddent yn gwybod sut y dylid trosi meddylfryd cynaliadwyedd i gaffael digidol, ac amlygwyd y cyfle i gynnwys cynaliadwyedd o fewn polisi a llwyfannau caffael ehangach, yn hytrach na gadael hynny i sefydliadau unigol ei ddehongli. 

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:

Anawsterau â chynaliadwyedd mewn caffael a rheoli cyflenwyr 

Diffyg cyllid, amser ac adnoddau

Datrysiadau posibl

Mae angen gwneud sero net yn rhan flaenllaw o’r broses gaffael ac mae angen cymorth ar bobl i roi hyn ar waith. Mae Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy llywodraeth y DU yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â lleihau carbon yn ystod y broses gaffael, gan dynnu sylw at y cymalau cynaliadwyedd a ychwanegwyd at Gontract Enghreifftiol Gwasanaethau a Chod Ymddygiad Cyflenwyr llywodraeth y DU fel enghreifftiau. 

Roedd nifer o ymarferwyr gorau yn annog cynnwys anghenion sero net mewn trafodaethau a pherthnasoedd â gwerthwyr, ac mae llawer ohonynt eisoes yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn yn eu mapiau ffordd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau. Bydd yn hanfodol ystyried sero net ar draws cadwyni cyflenwi.

Bydd defnyddio dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chynnwys set amrywiol o randdeiliaid, yn enwedig gweithwyr proffesiynol ym maes digidol a chynaliadwyedd, wrth ddylunio gwasanaethau ac mewn trawsnewid digidol, yn gynnar yn ystod y broses gaffael, yn helpu sicrhau bod datrysiadau yn gost-effeithiol, yn addas i’r diben ac yn gynaliadwy. 

Gallai dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon gynnwys:

  • darparu canllawiau ar wreiddio nodau sero net o fewn caffael digidol 
  • cynnwys arbenigwyr cynaliadwyedd yn gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau caffael 
  • datblygu perthnasoedd â gwerthwyr er mwyn cynnwys nodau sero net 
  • sicrhau bod dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (gan wneud gwasanaethau yn fwy effeithlon ac felly, o bosibl, yn wyrddach) yn rhan o’r broses brynu yn ogystal â chreu cynhyrchion a gwasanaethau