Beth yw’r broblem?

Lle mae gweithwyr proffesiynol cynaliadwyedd yn bodoli o fewn sefydliadau, nid ydynt wedi’u cydgysylltu i ddylanwadu ar dimau digidol a’u cefnogi. Ymhlith y gweithwyr proffesiynol cynaliadwyedd y buom yn siarad â nhw, yn aml, roedd ganddynt syniadau da ynghylch sut mae digidol yn cefnogi sero net, ond llai o allu i gyflawni’r syniadau hynny. Fodd bynnag, ymddengys bod rhai sefydliadau heb ddigon o arbenigedd ar gynaliadwyedd. 

Hefyd, mae angen i weithwyr digidol proffesiynol fod â’r sgiliau a’r wybodaeth i ymgorffori arferion cynaliadwyedd yn eu gwaith. Mae angen i bobl wybod beth i’w wneud, ble i ddechrau a sut i’w wneud. Bydd rhai o’r sgiliau a’r wybodaeth yn cyd-fynd ag arferion gorau cyffredinol o ran dylunio a digidol, ond bydd rhai pethau’n unigryw i gynaliadwyedd a lleihau allyriadau.

 

“Wyddoch chi, pan fyddwch chi’n dysgu rhywbeth ac rydych chi’n meddwl, ‘Dyna sut y dylai pethau fynd’, ac wedyn rydych chi’n mynd i fyd gwaith ac rydych chi’n gweld, ‘Wel, nid dyna sut mae pethau mewn gwirionedd!’”
- Ymarferwr digidol a thechnoleg mewn awdurdod lleol

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon: 

Diffyg galluedd o ran cynaliadwyedd mewn timau digidol 

Bod ar gam cynnar ar y daith trawsnewid digidol 

Datrysiadau posibl

Darganfuom ecosystem gyfoethog o ymarferwyr gorau ym maes Technoleg Sero Net yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn y DU a thu hwnt. Y grŵp mwyaf blaenllaw a pherthnasol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru yw tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy (STAR) llywodraeth y DU, dan arweiniad Defra.

Hefyd, mae gwybodaeth sylweddol ar gael eisoes ynghylch sut mae digidol yn berthnasol i leihau allyriadau carbon. Yn 2021, ychwanegwyd pwynt 12, Gwneud eich technoleg yn gynaliadwy, at y Cod Ymarfer Technoleg gan Swyddfa Digidol a Data Ganolog llywodraeth y DU, i gyd-fynd â chynhadledd COP26 a gynhaliwyd yn y DU. Yn ogystal, cyhoeddodd Defra Gwyrddu’r llywodraeth: strategaeth TGCh a gwasanaethau digidol 2020-2025 sy’n nodi polisïau ac arferion gorau yn fanwl. 

Byddai gwella sgiliau digidol a gwybodaeth ddigidol ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn helpu o ran mabwysiadu arferion gorau digidol. Yn ei dro, byddai hyn yn cyflwyno manteision digidol i gynlluniau sero net. 

Gallai dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon gynnwys:  

  • cyfeirio at waith da sy’n bodoli yn y maes hwn 
  • meithrin cymunedau o arferion da 
  • annog sefydliadau i ryngweithio ag ymarferwyr rhagorol sy’n bodoli 
  • datblygu sgiliau digidol cynaliadwy 
  • hyrwyddo diwylliant digidol