Soniwyd hefyd nad oeddent yn gwybod sut y dylid trosi meddylfryd cynaliadwyedd i gaffael digidol, ac amlygwyd y cyfle i gynnwys cynaliadwyedd o fewn polisi a llwyfannau caffael ehangach, yn hytrach na gadael hynny i sefydliadau unigol ei ddehongli.
Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:
Anawsterau â chynaliadwyedd mewn caffael a rheoli cyflenwyr
Diffyg cyllid, amser ac adnoddau
Datrysiadau posibl
Mae angen gwneud sero net yn rhan flaenllaw o’r broses gaffael ac mae angen cymorth ar bobl i roi hyn ar waith. Mae Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy llywodraeth y DU yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â lleihau carbon yn ystod y broses gaffael, gan dynnu sylw at y cymalau cynaliadwyedd a ychwanegwyd at Gontract Enghreifftiol Gwasanaethau a Chod Ymddygiad Cyflenwyr llywodraeth y DU fel enghreifftiau.
Roedd nifer o ymarferwyr gorau yn annog cynnwys anghenion sero net mewn trafodaethau a pherthnasoedd â gwerthwyr, ac mae llawer ohonynt eisoes yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn yn eu mapiau ffordd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau. Bydd yn hanfodol ystyried sero net ar draws cadwyni cyflenwi.
Bydd defnyddio dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chynnwys set amrywiol o randdeiliaid, yn enwedig gweithwyr proffesiynol ym maes digidol a chynaliadwyedd, wrth ddylunio gwasanaethau ac mewn trawsnewid digidol, yn gynnar yn ystod y broses gaffael, yn helpu sicrhau bod datrysiadau yn gost-effeithiol, yn addas i’r diben ac yn gynaliadwy.
Gallai dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon gynnwys:
darparu canllawiau ar wreiddio nodau sero net o fewn caffael digidol
cynnwys arbenigwyr cynaliadwyedd yn gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau caffael
datblygu perthnasoedd â gwerthwyr er mwyn cynnwys nodau sero net
sicrhau bod dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (gan wneud gwasanaethau yn fwy effeithlon ac felly, o bosibl, yn wyrddach) yn rhan o’r broses brynu yn ogystal â chreu cynhyrchion a gwasanaethau