Beth yw’r broblem?

Roedd ein hymchwil yn dangos datgysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd a blaenoriaethau digidol o fewn y sector cyhoeddus. Prin y mae cynaliadwyedd yn ysgogwr ar gyfer timau digidol.  

Mae angen i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru weld cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu o’r brig, gan dreiddio i lawr i amcanion timau digidol.

“Eisteddais i mewn ar ein Prif Swyddog Digidol yn rhoi cyflwyniad ar y strategaeth ddigidol newydd, ac nid yw sero net yn ymddangos o gwbl. Nid yw'n nodwedd o ran unrhyw un o'r ysgogwyr na'r liferi trefnu.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg

Mae COVID-19 wedi cyflymu’r broses o drawsnewid gwasanaethau mewn rhai meysydd, ond mae hefyd wedi golygu na roddwyd blaenoriaeth i waith sy’n canolbwyntio mwy ar nodau strategol hirdymor. 

“Oherwydd ein bod yn canolbwyntio ar COVID-19, mae llawer o bethau y byddem wedi’u gwneud yn flaenorol, fel cynaliadwyedd, wedi syrthio i gefn y ciw.”
- Arweinydd digidol a thechnoleg mewn gweinyddiaeth ganolog

Mae angen gwneud penderfyniadau sy’n pwyso a mesur nifer o ffactorau megis cost ac ansawdd, ac ar hyn o bryd, mae’n anodd i arweinwyr a thimau ddeall sut y dylid blaenoriaethu cynaliadwyedd yn erbyn y ffactorau hyn a sut i wneud achos busnes dros gefnogi cynaliadwyedd trwy ddigidol. 

Nid ydym ychwaith wedi gweld unrhyw system ar gyfer dal sefydliadau a thimau yn atebol am gyrraedd eu targedau sero net, ar wahân i’r terfyn amser, sef 2030 neu 2050. 

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:

Nid yw’n cael ei wneud yn flaenoriaeth (oni bai mai chi yw’r arweinydd cynaliadwyedd sy’n gyfrifol am adrodd ar garbon) 

Diffyg cyllid, amser ac adnoddau 

Bod ar gam cynnar ar y daith trawsnewid digidol 

Datrysiadau posibl 

Mae ymarferwyr gorau sy’n defnyddio digidol i fynd i’r afael â nodau sero net wedi cydnabod a mabwysiadu’r agweddau canlynol mewn perthynas â gosod lleihau allyriadau carbon fel blaenoriaeth:  

  • gweld sero net a lleihau ôl troed carbon fel risg parhad busnes 
  • bydd yn llawer drutach i fynd i’r afael â gofynion sero net yn ddiweddarach  
  • mae angen mesur allyriadau carbon a’u hystyried ar gyfer pob gwasanaeth 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod canllawiau ar dargedau newid hinsawdd a chyllidebau carbon yn fwyaf diweddar yng nghynllun Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25), ac mae Cyllideb Garbon 3 (2026-2030) eisoes wedi’i hamlinellu. 

Bydd rhoi pwyslais ar yr angen i feddwl am sero net ochr yn ochr ag ystyriaethau cynllunio a gweithredol eraill yn helpu i wreiddio sero net mewn diwylliant sefydliadol. 

Dulliau posibl ar gyfer ddatrys y broblem hon:

  • gwneud sero net yn rhan o bob prosiect 
  • amlygu polisïau ac ymrwymiadau ar yr hinsawdd sydd eisoes yn bodoli  
  • gosod targedau hinsawdd byrdymor 
  • pwysleisio sut y gall digidol helpu tuag at sero net ledled y sefydliad