Beth yw’r broblem?

Ym mis Mehefin 2019, pasiwyd Deddf Allyriadau Sero Net yn y DU, yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU ddod â’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i Sero Net erbyn 2050. Ym mis Chwefror 2021, nododd Llywodraeth Cymru hefyd ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni Allyriadau Sero Net erbyn 2050. 

Canfu ein hymchwil nad oedd ymwybyddiaeth gyson ymhlith arweinwyr ac ymarferwyr digidol a thechnoleg o:

“Ceir nodau o’r fath [Sero Net] yn y brifysgol, wedi’u hysgrifennu mewn papurau... ond sut mae hynny’n trosi i’r amgylchedd digidol, mewn gwirionedd? Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gwneud.”
- Ymarferydd digidol a thechnoleg mewn prifysgol

Mae ymwybyddiaeth o sero net a’r berthynas ag atebion a gwasanaethau digidol yn hanfodol o ystyried y potensial sydd gan ddigidol i helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon. Fel y nodwyd yn yr adroddiad Digital Technology and the Planet: Harnessing computing to achieve net zero gan y Gymdeithas Frenhinol:

“Gellir cyflawni bron i draean o’r gostyngiad o 50% mewn allyriadau carbon y mae angen i’r DU ei wneud erbyn 2030 drwy dechnoleg ddigidol sy’n bodoli”

Mae systemau etifeddol a chynlluniau gwasanaethau sydd wedi dyddio yn ffynhonnell sylweddol o garbon. 

Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:

A ydyn nhw’n gwybod sut y gallai digidol helpu i leihau allyriadau? 

A ydyn nhw’n ystyried allyriadau carbon wrth wneud penderfyniadau? 

Diffyg ymwybyddiaeth ynghylch cynaliadwyedd a’r hyn y gall digidol ei wneud 

Datrysiadau posibl

Wrth farnu sut mae sero net yn berthnasol i bob cyd-destun, dylid ystyried dau safbwynt gwahanol ar rôl digidol wrth leihau allyriadau carbon:  

  • cynaliadwyedd ac ôl troed carbon y dechnoleg ddigidol ei hun 

  • yr effaith y gall digidol ei chael ar wella cynaliadwyedd gwasanaethau a’u hôl troed carbon 

Ceir dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r safbwynt cyntaf o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan fod gostyngiad yn y defnydd o ynni a rheoliadau gwaredu gwastraff electronig wedi ysgogi gweithgarwch ers nifer o flynyddoedd. 

Mae ymwybyddiaeth o’r ail safbwynt yn llawer llai cyffredin, gan ei fod yn ymwneud â defnyddio digidol yn yr ystyr ehangach, sy’n dibynnu ar aeddfedrwydd digidol a setiau sgiliau digidol y sefydliad. 

Mae cyfathrebu ac addysg yn hanfodol i fynd i’r afael ag ymwybyddiaeth o bolisïau, cymhwysedd a phosibiliadau digidol a sut maent yn berthnasol i sero net. 

Dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon: 

  • amlygu polisïau ac ymrwymiadau sy’n bodoli 
  • sefydlu ymgyrch gyfathrebu ar draws y sector cyhoeddus 
  • hyfforddiant cyffredinol ar lythrennedd carbon 
  • amlygu lle mae cynaliadwyedd eisoes yn cael ei gynnwys ym mholisi a strategaeth ddigidol y sector cyhoeddus 
  • cyfeirio at ddeunyddiau a llenyddiaeth sy’n ymdrin ag arferion gorau 
  • amlygu lle mae cynaliadwyedd yn cael ei gynnwys eisoes yn strategaethau digidol y sector cyhoeddus  
  • gwneud cynaliadwyedd yn fwy amlwg o fewn Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru