Yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, sydd a'i nod ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu ystod a defnydd y gwasanaethau Cymraeg a gynigir i'r cyhoedd, buom yn gweithio gyda 3 sefydliad i'w helpu i greu cynnwys dwyieithog, er mwyn creu gwell profiad i'r rheini (y defnyddwyr) sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg, buom yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Cadw a Phrifysgol Abertawe i roi cynnig ar ddull newydd o greu cynnwys dwyieithog – ysgrifennu triawd – proses sy'n cynnwys arbenigwr pwnc, dylunydd cynnwys a chyfieithydd.

Effaith

Fe wnaethom sefydlu perthnasoedd uniongyrchol a chysylltiadau ag amrywiaeth o sefydliadau a sectorau ledled Cymru. Roedd rhai o'r cysylltiadau hyn yn newydd i ni.

Buom yn gweithio gyda sefydliadau unigol i ddangos gwerth cyd-ddylunio cynnwys o fewn eu cyd-destun i wella eu prosesau a'u hallbynnau dwyieithog. Mynegodd y sefydliadau hyn eu dymuniad i barhau i ddefnyddio'r technegau hyn i gydweithio yn y dyfodol. Roedd Cadw am barhau i weithio a ni ar ddiwedd y sesiynau ac archebu traean gan eu bod yn dymuno i'w holl gynnwys gael eu creu yn y modd hwn. Roedd Prifysgol Abertawe hefyd eisiau parhau i ysgrifennu ac fe wnaethon nhw drefnu ail sesiwn.

Rhannwyd y syniadau hyn â thua 150 o sefydliadau yn ystod y Sioe Deithiol Iaith ar Waith.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg hefyd astudiaeth achos ysgrifennu triawd ar eu gwefan fel enghraifft i sefydliadau eraill.

Dyma oedd gan ein partneriaid i'w ddweud

"Un o sgil effeithiau rhagorol ysgrifennu triawd yw'r ffaith bod y ffordd hon o weithio yn aml yn helpu i ddod o hyd i ymadroddion nad ydynt yn gweithio'n wych yn y Saesneg - felly mae pawb ar ei hennill!"

Rwy'n croesawu pob ymdrech i feddwl yn arloesol am sut i wella'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael. Mae'n amlwg y gall ysgrifennu triawd gyfrannu'n sylweddol at wella safon ac ansawdd gwasanaethau cyhoeddus, yn Gymraeg ac yn Saesneg.”
Comisiynydd y Gymraeg
“Roedd y sesiwn yn wych. Mae'r gwaith rydych chi'ch dau yn ei wneud yn arloesol! Efaill mewn ychydig o flynyddoedd bydd Ysgrifennu Triawd wedi'i ymgorffori ar draws popeth a wna LlC - byddai hynny yn ffantastig. Dylai LlC fod yn arwain ar hyn i osod esiampl i weddill Cymru."
Gary Bennett, Ymchwilydd Defnyddwyr, Llywodraeth Cymru

Y camau nesaf

Byddwn yn:

  • cysylltu gyda sefydliadau na allent fod yn rhan o'r sesiynau peilot yn gynharach eleni a'r rhai y gwnaethom siarad â nhw yn y sioeau iaith a'r daith a chynnig ein gwasanaethau iddynt
  • datblygu dull strategol o ymdrin â'n gweithgareddau dylunio dwyieithog a chreu amodau i sefydliadau lwyddo
  • deall mwy am yr heriau sy'n wynebu sefydliadau sector cyhoeddus wrth ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr
  • rhannu gwybodaeth ac arfer da gyda'r sector cyhoeddus
  • parhau i feithrin ein perthynas â Chomisiynydd y Gymraeg ac adeiladu perthnasoedd eraill i gyrraedd mwy o sefydliadau a chael mwy o ddylanwad

Sut y datblygodd y gwaith hwn

Eisteddfod

Yn 2022, aethom i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf a gweithio gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac ymchwilio sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg.

Canfu'r ymchwil fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio Cymraeg sy'n swnio'n annaturiol ac, yn aml, nad oedd y cynnwys Cymraeg yn ddibynadwy. Ers hynny, bu llawer o waith i archwilio sut y gallwn wella dyluniad gwasanaethau dwyieithog sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac yn trin y rhai sy'n siarad yr iaith yr un mor gyfartal â'r rhai sy'n siarad Saesneg. Sefydlwyd y dull ysgrifennu triawd fel methodoleg ar gyfer dylunio a chreu cynnwys dwyieithog.

Darllenwch ‘Sut allwn ni helpu siaradwyr Cymraeg i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau ar-lein yn Gymraeg? ’ – Anerchiad gan Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg – Awst 2022.

Lansio llyfr ysgrifennu triawd

Ysgrifennu triawd yw pan fydd tri pherson yn gweithio gyda'i gilydd i greu cynnwys dwyieithog. Fel arfer, y 3 rôl yw arbenigwr pwnc, dylunydd cynnwys a chyfieithydd. Weithiau mae ymchwilydd defnyddiwr yn cymryd lle'r arbenigwr pwnc.

Yn 2023, aethom yn ôl i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a lansio ein llyfr, Ysgrifennu Triawd / Trio Writing: Dylunio cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Roedd yn cynnwys pobl ar draws y sector cyhoeddus ac mae'r llyfr yn ffordd o ddod â rhai o'r lleisiau hyn at ei gilydd i dynnu sylw at y manteision, rhoi awgrymiadau, a rhannu astudiaethau achos.

Lawrlwytho yr e-lyfr

Archebu'r llyfr (clawr papur)

Sioeau Teithiol Iaith ar Daith

Yn 2024, cynhaliwyd 3 sioe deithiol wyneb yn wyneb ar draws Cymru (Llanelwy, Caerdydd a Chaerfyrddin) ac un sioe deithiol ar-lein gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Gwnaethom edrych ar sut y gall sefydliadau cyhoeddus greu cynnwys dwyieithog ar gyfer gwasanaethau Cymraeg a hyrwyddo'r gwasanaethau hynny yn well i'w defnyddwyr. Rhannodd y rheini oedd yn bresennol eu profiadau eu hunain, gwneud cysylltiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd a chan y rheini sydd wedi gwella eu cynnwys a'u gwasanaethau eu hunain trwy'r broses gydweithredol o ysgrifennu triawd. Cofrestrodd 286 o unigolion ar gyfer y 4 sioe deithiol.

Dyma Gomisiynydd y Gymraeg, sy'n cyflwyno Sioe Deithiol Iaith ar Daith, a phwysigrwydd adeiladu gwasanaethau digidol yn ddigidol:

Darllen mwy

Sut i ddefnyddio'r dull ysgrifennu triawd

Defnyddio'r dull ysgrifennu triawd i gydweithio'n well ar gynnwys dwyieithog

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Amcan 4: Defnyddio allbwn yr adolygiad tirlun i lunio blaenoriaethau CDPS nawr ac yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatrys materion a phryderon sectorol neu ddaearyddol a rennir ar y cyd.

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym maes digidol, data a thechnoleg.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu