Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gall atebion digidol wella cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth cynllunio yng Nghymru.

Gwnaethom rannu'r prosiect yn ddau gam:

  1. y cam cyn-darganfod
  2. darganfod

Yn ystod y cyfnod cyn darganfod, gwnaethom gynnal ymchwil bwrdd gwaith i ddeall y gwasanaeth cynllunio presennol, edrych ar wahanol wefannau cynllunio awdurdodau lleol i ddeall sut maent yn gweithio, dechrau ymgysylltu yda rhanddeiliaid a chynnal gweithdai i ddiffinio cwmpas y prosiect.

Mynychodd y tîm Ysgol Gaeaf Caerdydd ym maes Cynllunio Digidol i rwydweithio a dysgu am offer cynllunio digidol newydd i wella'r gwasanaeth.

Yn y cyfnod darganfod, ein ffocws oedd ymchwilio a deall yr heriau a'r rhwystrau o fewn y broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio.

Canfyddiadau hyd yn hyn

Mae'r sector cynllunio yng Nghymru yn gymhleth. Yn dilyn gohebu â rhanddeiliaid allweddol, daethom ar draws sawl problem ar draws y gwasanaeth cynllunio cyfan:

  • diffyg adnoddau – anhawster yn recriwtio a chadw arbenigwyr
  • systemau TG aneffeithlon
  • systemau anghyson ar draws gwahanol awdurdodau cynllunio lleol
  • y defnyddiwr yn cael anhawster i ddeall gwybodaeth– polisïau yn gymhleth
  • ansawdd y ceisiadau cynllunio yn wael
  • anawsterau wrth geisio rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd
  • diffyg dulliau o gael adborth
  • diffyg ymddiriedaeth ymysg y cyhoedd
  • cost y cais ddim yn ymgorffori ffioedd cysylltiol

Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn hanfodol os ydym am wella effeithiolrwydd a hygyrchedd y gwasanaeth cynllunio yng Nghymru.

Effaith

Rydym yn dal parhau i fod yn y cam darganfod, ond yr effaith hyd yma yw ein bod wedi llwyddo i ddod â'r bobl iawn ynghyd i dynnu sylw, ynghyd â thystiolaeth, at yr heriau sy'n wynebu pobl sy'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Y camau nesaf

Bydd y prosiect hwn yn parhau ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Ein camau nesaf yw dod a'r cyfnod darganfod i ben ac ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth Cymru gyda’r canfyddiadau a’r argymhellion.

Gwyliwch ein sioe dangos a dweud

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym meysydd digidol, data a thechnoleg.

Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang