Trosolwg
Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.
Mae'n eich helpu i ddysgu am eich defnyddwyr, a deall eu:
- hymddygiad
- anghenion
- cymhellion
- modelau meddwl
Mae eich modelau meddwl yn disgrifio sut rydych chi’n deall y byd o’ch cwmpas er mwyn gallu bodoli. Maen nhw’n adeiladu ar eich profiadau bywyd a gwybodaeth flaenorol, gan ddylanwadu ar sut rydych chi’n gwneud penderfyniadau ac yn disgwyl i bethau weithio.
Trwy gynnal ymchwil defnyddwyr, byddwch yn deall:
- pwy yw eich defnyddwyr
- beth maen nhw'n ceisio chwilio amdano, ceisio ei wneud neu ei gael, a pham
- sut y maen nhw’n ceisio gwneud pethau nawr
- sut mae eu profiadau bywyd a’u ffordd o edrych ar y byd yn dylanwadu ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud
- sut maen nhw’n defnyddio a pha brofiad sydd ganddynt o wasanaethau cyfredol
Gall hyn eich helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gweithio i’ch defnyddwyr.
Manteision ymchwil defnyddwyr
Gall darparu gwasanaeth heb ddeall eich defnyddwyr a'u hanghenion greu problemau difrifol ym mywyd eich defnyddwyr.
Er enghraifft, methu â chael cymorth ariannol, methu apwyntiad gofal iechyd pwysig neu wneud cais am drwydded.
Gall hefyd effeithio ar eich busnes a'ch sefydliad drwy:
- gynyddu costau
- difrodi eich enw da
- achosi i bolisi fethu â chyflawni ei nodau
Gan ddefnyddio mewnwelediadau ymchwil defnyddwyr i ddylunio, datblygu a darparu eich gwasanaeth, byddwch chi'n creu rhywbeth sy'n:
- gweithio i'ch defnyddiwr
- datrys y broblem gywir
- datrys eich problem mewn modd effeithiol ac effeithlon
Darllenwch sut i ymchwilio i’ch defnyddwyr a’u hanghenion.