Mae glasbrint gwasanaeth yn dogfennu sut mae'r cwmni'n gweithio a'i weithrediadau mewnol. 

Mae'n mapio'r broses gyfan o ddarparu gwasanaethau, uwchlaw ac islaw'r llinell amlygrwydd.  

Dywed Fresco:

Os ystyriwch fap taith cwsmeriaid i fod yn ffilm, glasbrint y gwasanaeth fydd ei ddilyniant perffaith.

Pryd i ddefnyddio glasbrint gwasanaeth

Defnyddiwch glasbrintiau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau presennol. Ni ddylid defnyddio glasbrint gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau newydd nac fel offeryn syniadaeth.

Cynnwys glasbrint gwasanaeth

Fel diagram, mae glasbrint gwasanaeth yn rhestru'r holl weithgareddau sy'n digwydd ar bob cam, a berfformir gan y gwahanol rolau dan sylw.

Drwy fapio'r camau gan wahanol grwpiau defnyddwyr, mae'r matrics sy'n deillio o hynny yn dangos y berthynas rhwng yr hyn y mae'r defnyddiwr yn ei brofi, a'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'r sefydliad, gan helpu i gysoni'r prosesau busnes â thaith y defnyddiwr.

Diagram o lasbrint gwasanaeth

Ffynhonnell: Service Blueprint Example gan Grŵp Neilsen Norman

Mae'r enghraifft hon yn dangos y llinell amlygrwydd. Mae'r llinell hon yn  gorwedd rhwng yr hyn y mae'r cwsmer yn ei weld a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Mae hyn yn sicrhau bod y prosesau, y camau gweithredu a'r cynnwys yn cael eu hystyried a'u cynllunio, nid eu gadael i hap a damwain.