Trosolwg

Mae ymchwil defnyddwyr yn hanfodol i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.

Mae'n eich helpu i ddysgu am eich defnyddwyr, a deall eu:

  • hymddygiad
  • anghenion
  • cymhellion
  • modelau meddwl 

Mae eich modelau meddwl yn disgrifio sut rydych chi’n deall y byd o’ch cwmpas er mwyn gallu bodoli.  Maen nhw’n adeiladu ar eich profiadau bywyd a gwybodaeth flaenorol, gan ddylanwadu ar sut rydych chi’n gwneud penderfyniadau ac yn disgwyl i bethau weithio.

Trwy gynnal ymchwil defnyddwyr, byddwch yn deall:

  • pwy yw eich defnyddwyr
  • beth maen nhw'n ceisio chwilio amdano, ceisio ei wneud neu ei gael, a pham
  • sut y maen nhw’n ceisio gwneud pethau nawr
  • sut mae eu profiadau bywyd a’u ffordd o edrych ar y byd yn dylanwadu ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud
  • sut maen nhw’n defnyddio a pha brofiad sydd ganddynt o  wasanaethau cyfredol

Gall hyn eich helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gweithio i’ch defnyddwyr.

Manteision ymchwil defnyddwyr

Gall darparu gwasanaeth heb ddeall eich defnyddwyr a'u hanghenion greu problemau difrifol ym mywyd eich defnyddwyr.

Er enghraifft, methu â chael cymorth ariannol, methu apwyntiad gofal iechyd pwysig neu wneud cais am drwydded.

Gall hefyd effeithio ar eich busnes a'ch sefydliad drwy:

  • gynyddu costau
  • difrodi eich enw da
  • achosi i bolisi fethu â chyflawni ei nodau

Gan ddefnyddio mewnwelediadau ymchwil defnyddwyr i ddylunio, datblygu a darparu eich gwasanaeth, byddwch chi'n creu rhywbeth sy'n:

  • gweithio i'ch defnyddiwr
  • datrys y broblem gywir
  • datrys eich problem mewn modd effeithiol ac effeithlon

Darllenwch sut i ymchwilio i’ch defnyddwyr a’u hanghenion.