Trosolwg 

Graddfa aeddfedrwydd

Gwnaethom nodi sawl ffactor a oedd yn gwahaniaethu rhwng sefyllfa sefydliadau o ran eu defnydd o naill ai RPA neu AI:

  • Awydd y sefydliadau i'w ddefnyddio. 
  • A yw unrhyw ddefnydd ohono'n cael ei ddefnyddio yn achlysurol neu'n cael ei gydlynu'n ganolog. 
  • P'un a yw unrhyw weithrediadau yn cael eu defnyddio mewn gweithrediadau arferol o ddydd i ddydd (h.y. yn fyw), yn hytrach na phrofion defnydd cyfyngedig neu gynlluniau peilot. 
  • Nifer y gweithrediadau. 
  • I ba raddau y mae gweithrediadau'n dilyn proses ailadroddus sefydledig. 
  • P'un a yw gweithrediadau'n darparu buddion mesuradwy cyson.

Datblygwyd hyn yn raddfa aeddfedrwydd syml:

  1. Cyfyngedig: dim defnydd wedi'i gydlynu'n ganolog, er y gallai'r sefydliad fod yn gwneud rhywfaint o ddefnydd ohono. 
  2. Archwilio: gwneud gwaith paratoi (e.e. sefydlu llywodraethu, nodi achosion defnydd, dewis darparwyr allanol) a/neu gynnal gweithrediadau prawf. 
  3. Arbrofi: nifer fach o achosion yn cael eu defnyddio mewn gweithrediadau o ddydd i ddydd gyda chynlluniau i ehangu.  
  4. Hyderus: tystiolaeth o ddull gweithredu sefydledig, sawl achos byw yn darparu buddion mesuradwy. 
Graff yn dangos sut mae sefydliadau ymatebol yn graddio ar raddfa aeddfedrwydd o ran defnyddio AI ac RPA.

Graff yn dangos sut mae sefydliadau ymatebol yn graddio ar raddfa aeddfedrwydd o ran defnyddio AI ac RPA.

Sylwebaeth

Mae pob un ond un yn defnyddio neu'n paratoi i ddefnyddio RPA mewn ffordd gydgysylltiedig ganolog. Mae'r mwyafrif yn dal i fod yng nghamau cynnar eu rhoi ar waith – naill ai'n dechrau gweithredu nawr neu wedi rhoi achosion byw ar waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Roedd dau sefydliad eisoes wedi defnyddio RPA ac wedi rhoi'r gorau i wneud hynny o leiaf bum mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar, mae un wedi ailgychwyn gan ddefnyddio meddalwedd gwahanol ac yn seiliedig ar ganolfan ragoriaeth – tîm canolog sy'n darparu arweinyddiaeth pwnc, arferion da, cefnogaeth a hyfforddiant. Mae'r llall yn bwriadu ailgychwyn, ond gyda ffocws ar awtomeiddio deallus wedi'i ategu gan AI.  

Mae gan 2 sefydliad arfer RPA sefydledig iawn, gan eu bod wedi bod yn ei ddefnyddio am 4 i 5 mlynedd. Disgrifiodd yr ymatebwyr hyn fethodolegau yn seiliedig ar ganolfannau rhagoriaeth. Mae ganddynt astudiaethau achos sy'n dangos gwireddu buddion mesuradwy.  

Ar y cyfan, yr oedd gwerth RPA nifer o sefydliadau yn llai clir. 

Mewn cyferbyniad, mae pob sefydliad yn archwilio neu'n arbrofi gydag AI. Mae'r gwahaniaethau yn gorwedd yn y man lle maen nhw'n canolbwyntio fwyaf ar hyn o bryd. 

RPA

Diddordeb 

Yn gyffredinol, mae awydd da i ddefnyddio RPA nawr ac yn y dyfodol ymhlith sefydliadau y buom yn siarad â nhw. Caiff cryfder yr archwaeth hwn ei newid gan sawl ffactor: 

  • Cryfder y dewis ar gyfer awtomeiddio trwy integreiddio systemau digidol yn uniongyrchol trwy API. 
  • Y gallu i awtomeiddio trwy API, yn seiliedig ar faint o'u technoleg sydd â'r API gofynnol ac argaeledd datblygwyr i wneud y gwaith codio. 
  • Nifer y prosesau a fyddai'n elwa o awtomeiddio. 

Mae gan 1 awdurdod lleol nifer o systemau digidol sydd wedi'i datblygu'n fewnol. Mae hyn wedi eu galluogi i awtomeiddio'n uniongyrchol mewn llawer o achosion ac nid ydynt eto'n defnyddio RPA. Fodd bynnag, maent yn parhau i fod â meddwl agored ynghylch dod o hyd i'r heriau y gallai RPA ddarparu ateb ar eu cyfer. 

Y farn gyffredinol yw bod RPA yn opsiwn gwerthfawr mewn rhai sefyllfaoedd. 

“Felly, rydyn ni'n defnyddio RPA ar hyn o bryd, ac yn gwneud hynny ers tua phum mlynedd. Rydym yn ei ddefnyddio gryn dipyn ar draws yr awdurdod a chyda llawer o'n systemau a'n gwasanaethau. Rydym yn ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd lle mae llawer o fynediad data yn cael ei fewnbynnu i systemau neu lle mae data yn cael ei symud o un system i'r llall."
Awdurdod lleol 3
“Rwy'n ystyried RPA fel ateb i heriau etifeddiaeth. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw lle mae gennym systemau etifeddiaeth na ellir eu newid. Rydym yn defnyddio .NET ar lwyfannau gwasanaeth ac mae'n gymharol hawdd i ni newid. Felly, y gost ymylol o roi gwasanaeth fel hynny ar waith, mae hynny mewn gwirionedd yn gwella ein apiau... Waeth i ni fynd at i wella ein apiau hefyd yn hytrach na phapuro dros y craciau, rhywbeth y mae RPA eisoes yn ei wneud."
Corff hyd braich 1
“Gellir gweld RPA fel plastr sy'n cael ei roi dros brosesau gwael. Mae'r tîm wedi gwneud llawer iawn o waith yn gwella integreiddio, felly mae'r systemau yn siarad â'i gilydd. Ond mae [RPA] yn llwybr byr i rai o'r pethau y byddem yn ddelfrydol yn eu gwneud trwy integreiddio... mae'n rhoi opsiynau i ni."
Awdurdod lleol 4

Mae'r darlun ychydig yn ddryslyd gan ganfyddiadau unigolion o'r hyn sy'n sy'n cael ei ystyried yn RPA a'r hyn nad ydyw.  

Er enghraifft, nododd 1 sefydliad eu bod wedi ymchwilio i RPA a daeth i'r casgliad nad oedd ganddynt lefel y prosesau a fyddai'n cyfiawnhau'r buddsoddiad. Fodd bynnag, fe wnaethant ddatgelu yn ddiweddarach yn y cyfweliad fod ganddyn nhw brosiect sy'n ymroddedig i ystyried eu holl brosesau a sut i'w awtomeiddio gyda Microsoft Power Automate.  

Daeth y ffaith bod sefydliadau yn diystyru Microsoft Power Automate yn amlwg mewn sawl cyfweliad, gan awgrymu nad yw rhai yn gweld Microsoft Power Automate fel RPA ‘gwirioneddol'. Fodd bynnag, clywsom fod strategaeth RPA 1 awdurdod lleol yn seiliedig ar ddefnyddio Microsoft Power Platform. 

Enghreifftiau lle mae'n cael ei ddefnyddio 

Mae sefydliadau fel arfer yn defnyddio RPA i ymgymryd â thasgau cyfaint/ymdrech uchel, ailadroddus, seiliedig ar reolau. Mae hyn yn gyffredin yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • nid yw'r systemau digidol yn cynnwys API i gefnogi integreiddiad uniongyrchol 
  • costau datblygu integreiddio – o ran amser, adnoddau, arian ac ati – yn gwneud RPA yn fwy deniadol 
  • nid oes gan sefydliadau gapasiti datblygwyr

Dyma rai enghreifftiau o ble mae RPA yn cael ei ddefnyddio:

  • Adnoddau dynol: prosesu manylion unigolion sy'n gadael y sefydliad, prosesu manylion staff newydd, gwiriadau DBS, taflenni amser a chontractau sy'n dod i ben. 
  • Cyllid: prosesu Taliadau Cyflymach, Debydau Uniongyrchol a thaliadau cyfatebol a dderbynnir i gyfrifon cwsmeriaid a dyledion sy'n ddyledus. 
  • Atgyfeirio gwasanaethau neu geisiadau: prydau ysgol am ddim, grantiau gwisg ysgol a cheisiadau am gymorth gan sefydliadau trydydd parti. 

Buddiannau

Y fantais a adroddir yn gyffredin o RPA yw enillion effeithlonrwydd o leihau ymdrech gyfwerth a phroses amser llawn (FTE). Sylwch fod ymatebwyr yn defnyddio hyn fel uned o werth yn hytrach na siarad am gwtogi swyddi. 

Fodd bynnag, disgrifiodd yr ymatebwyr lawer o fuddion ble mae modd trosi endid yn arian parod a'r rheini na ellir eu trosi yn arian parod hefyd: 

  • Llai o gamgymeriadau: gall y rhain fod yn gyffredin mewn tasgau ailadroddus a wneir gan fodau dynol. 
  • Gwell boddhad swydd a chyfraddau salwch is trwy ryddhau staff i ganolbwyntio mwy o amser ar waith gwerth uwch. Mae hyn hefyd yn gwella profiad y dinesydd mewn sefyllfaoedd lle gall staff wedyn neilltuo mwy o amser i ddarparu gwasanaeth personol. 
  • Cydbwyso brigau a phantiau yn y galw am wasanaethau trwy ddefnyddio botiau a all gyflawni pob math o dasgau awtomataidd a'u dyrannu i'r man lle mae eu hangen fwyaf. 
  • Gwella prosesau: Adroddodd y rhan fwyaf o sefydliadau eu bod yn dadansoddi ac yn gwella prosesau cyn eu hawtomeiddio. 
  • Safoni'r broses: disgrifiodd llawer o sefydliadau brosesau awtomeiddio fel cyfle i ddiffinio un ffordd o gynnal prosesau tebyg ar draws y sefydliad.

Pwysleisiodd y mwyafrif o'r ymatebwyr bwysigrwydd y potensial i wella profiad y cwsmeriaid sy'n defnyddio eu gwasanaethau trwy gyflymu cyfraddau ymateb, yn aml yn sylweddol. 

“Mae'n lleihau'r gwaith ymarferol y mae'n rhaid ei wneud, ond mae hefyd yn cael effaith enfawr ar leihau nifer y gwallau yr ydym yn eu gwneud o ran taliadau. Roedd llawer o daliadau grantiau gwisg ysgol er enghraifft yn cael eu dychwelyd oherwydd bod staff wedi ail-fewnbynnu’r manylion talu yn anghywir - gwall dynol, mae pobl yn gwneud camgymeriadau. Mae'r problemau hynny bellach wedi lleihau'n aruthrol.”
Awdurdod lleol 3
“Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn agor ym mis Gorffennaf ac maent yn cael eu llethu gan geisiadau yn ystod wythnosau cyntaf y mis. Weithiau chant eu prosesu tan fis Awst, ond gyda RPA gallwn leihau'r amser hwn o wythnosau i, yn ôl pob tebyg, ar y diwrnod ei hun. Byddai hynny yn gam mawr ymlaen."
Awdurdod lleol 6

Hefyd, pwysleisiodd y rhan fwyaf o sefydliadau eu bod yn mynd ar drywydd awtomeiddio nid i gwtogi swyddi, ond i'w galluogi i drin eu llwyth gwaith yn well gyda'r staff sydd ganddynt yn wyneb cyllidebau yn cael eu torri. Dywedodd rhai eu bod yn defnyddio iaith benodol wrth geisio atgyfnerthu'r neges hon. 

“Y neges allweddol ar y daith tuag at awtomeiddio deallus yw y gall technoleg newydd achosi gwrthdaro, yn enwedig gyda gweithwyr. Y geiriau a'r iaith a ddefnyddir [sy'n bwysig]. Dyn ni ddim yn cyfeirio atynt fel robotiaid. Rydym yn eu galw'n weithwyr rhithwir ac maent yno i gydweithio â staff. Ac mae'r negeseuon hynny yn bwysig iawn, iawn, eu bod yn cydweithio â phobl yn hytrach na chymryd lle staff."
Awdurdod lleol 2

Rhwystrau

Mae'r rhwystrau a glywir yn gyffredin i fabwysiadu RPA ychydig yn rhyng-gysylltiedig:

  • Esbonio'r cysyniad i randdeiliaid: Mae angen i uwch arweinwyr a'r rheini sy'n gyfrifol am redeg gwasanaethau sefydliad ddeall y dechnoleg a'i gwerth posibl cyn y gallant gefnogi ei ddefnydd.
  • Llunio achos busnes a sicrhau cyllid.
  • Nodi prosesau ymgeiswyr: timau sy'n cydlynu strategaeth awtomeiddio yn ganolog o reidrwydd yn agos at y prosesau a fydd yn elwa o awtomeiddio. Y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau sydd yn y sefyllfa orau i adnabod prosesau sy'n addas ar gyfer awtomeiddio.
  • Dod o hyd i dimau sy'n barod i wneud y gwaith a gwneud y newid i'w prosesau: Mae awtomeiddio prosesau yn gofyn am gyfranogiad sylweddol gan y rhai sy'n eu rhedeg, ynghyd â pharodrwydd i newid sut maent yn gweithio.

     

    Mae angen goresgyn pob un o'r pedwar rhwystr hwn i ddechrau gyda RPA. 

“Mae ein huwch dîm rheoli yn gefnogol iawn o'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, ond nid oes gennym hyrwyddwr digidol o reidrwydd, sy'n golygu ei bod weithiau'n anodd cael y gefnogaeth angenrheidiol. Nid oes ganddynt o reidrwydd y cefndir technolegol chwaith. Felly, un o'r prif rwystrau oedd gallu trosi beth oedd RPA mewn ffordd a oedd yn gwneud synnwyr.”
Cymdeithas tai
“Mae wedi cymryd amser i gyrraedd y pwynt hwn. Nid ydym wedi bod yn llaesu ein dwylo o ran bod eisiau bwrw ymlaen a'r gwaith. Gorfod i ni ymdopi a rhai heriau ynghylch yr elfen ariannol, dim ond er mwyn sicrhau'r cyllid fel y gallwn ddechrau arni. Ceisio egluro ble roedd yr effeithlonrwydd a sut roedden ni'n mynd i ariannu'r gwaith. Nid dim ond mater o gael partner i'n helpu i roi'r prosiect ar waith a'n gwneud yn hunangynhaliol fel y gallem ei redeg ein hunain yw hi; mae hefyd yn ymwneud a chost y platfform, y trwyddedau ac yna cost ein tîm mewnol."
Awdurdod lleol 4
“Y wers hollbwysig a ddysgwyd yw'r ffaith bod yn rhaid i'r gwasanaeth fod yn barod i newid a thrawsnewid. Mae hynny hefyd yn golygu ymrwymo… gallai hynny olygu mapio prosesau i ddechrau; mae rhai pobl yn dweud, ‘Dyma sut rydyn ni wedi ei gwneud hyn erioed’ ac nid ydyn nhw'n barod i edrych, dadansoddi a herio [y sefyllfa fel ac y mae hi].”
Awdurdod lleol 6

Disgrifiodd rhai o'r cyrff hyd braich a'r gymdeithas dai un set arall o rwystrau rhyng-gysylltiedig y mae sefydliadau llai o faint yn eu hwynebu: 

  • Model cost afresymol, angen prynu isafswm o fotiau. 
  • Cael prosesau mewn lle sydd â chyfrolau trafodion digonol i ddarparu enillion ar fuddsoddiad. 
  • Dod o hyd i ddarparwyr trydydd parti sy'n barod i weithio ar swyddi llai.

Risgiau a heriau

Mae risgiau a heriau yn gysylltiedig â rhoi RPA ar waith. Gofynnodd nifer o'r ymatebwyr y cwestiynau canlynol:

  • Mae diffyg cydnerthedd i newid o fotiau wedi'u rhaglennu i gyflawni'r un camau dro ar ôl tro trwy'r un rhyngwynebau defnyddiwr. Gall newidiadau i'r gweithredoedd neu'r rhyngwynebau hyn dorri'r broses, gan ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei hail-raglennu. Mae'r gwaith cynnal a chadw hwn yn gostus os oes rhaid iddo gael ei wneud yn rheolaidd.  
  • Dewis ymgeiswyr lle mae costau cynnal a chadw yn tanseilio'r enillion a ragwelir ar fuddsoddiad: os yw'r prosesau yn or gymhleth neu heb sefydlogrwydd digonol, byddai angen eu cynnal yn fwy rheolaidd gan arwain at sefyllfa nad yw'n effeithiol o ran cost.  
  • Awtomeiddio prosesau gwael: nododd ymatebwyr nad oeddent yn or awyddus i ddefnyddio systemau awtomeiddio i gyflymu prosesau is-optimaidd, yn hytrach na gwneud y gwaith i wella'r broses ei hun o fewn ei chyd-destun gwasanaeth ehangach. 
  • Meddu ar sgiliau a gallu gofynnol: mae angen sgiliau arbenigol ar weithrediadau RPA mwy soffistigedig i sefydlu a chynnal, mae'r ffaith bod yr holl ymatebwyr wedi defnyddio cefnogaeth trydydd parti ar ryw adeg i'w chefnogi yn dyst o hynny.  
  • Staff yn pryderu y gallant golli eu swyddi: yn ddieithriad, mae trafod awtomeiddio tasgau a wneir ar hyn o bryd gan staff a thrafod enillion effeithlonrwydd FTE yn arwain at bryder ymhlith staff bod hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer cwtogi ar swyddi.  
“Gwnaethom awtomeiddio ein proses banc bwyd, a oedd yn ddibynnol ar wefan trydydd parti. Roedd y broses yn barod i'w rhoi ar waith ond oherwydd i'r banc bwyd newid y ffordd yr oeddent yn gweithredu a newid eu gwefan, roedd yr holl waith yn ofer. Felly... gwnaethom benderfynu mai dim ond sefyllfaoedd sydd o fewn ein rheolaeth lwyr y byddwn yn ei awtomeiddio. Mae wedi bod yn wers bwysig i ni.”
Cymdeithas tai
“Mae llawer o staff rydw i wedi gweithio gyda nhw yn bryderus y bydd eu swyddi yn cael eu disodli gan robotiaid. Doedd hyn ddim yn amlwg ar ddechrau'r prosiect, ond wrth i amser fynd rhagddo, mae'r amcangyfrif o'r amser staff a arbedir ar gyfer rhoi'r prosesau hyn ar waith wedi cael ei leihau yn fawr gan fod pobl wedi lleihau mwy a mwy ar eu hamcangyfrifon. Maent yn cwtogi arno am eu bod yn pryderu y bydd y broses yn disodli dau neu dri aelod o staff. [Fodd bynnag], mae RPA yno i atgyfnerthu staff, nid i gymryd eu lle.”
Awdurdod lleol 6

Dulliau

Fe wnaethom archwilio sut mae sefydliadau yn mynd ati i wneud y canlynol: 

  • nodi a dewis rhwng ymgeiswyr cystadleuol ar gyfer RPA o bersbectif nodweddion proses 
  • ymgysylltu â'r sefydliad ehangach i wneud hyn o safbwynt ymarferol  
  • cyflawni cam gweithredu
  • mesur llwyddiant y camau gweithredu hyn 

Disgrifiodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr y byddai RPA yn ddefnyddiol ar gyfer: 

  • cyfaint neu ymdrech uchel, cymhlethdod isel (h.y. yn seiliedig ar reolau gyda nifer fach iawn o fewnbynnau ac allbynnau) a phrosesau ailadroddus 
  • yn sefydlog (h.y. heb fod yn destun newid yn aml) 
  • os oes gan y tîm sy'n eiddo ar broses yr awydd i weithio ar y gweithredu a newid y ffordd yr ymdrinnir â'r broses 

Disgrifiodd llawer o ymatebwyr ymgeisydd da fel:

  • lle bydd awtomeiddio yn rhyddhau amser staff ar gyfer gwaith gwerth uwch (e.e. awtomeiddio gwaith gweinyddol paratoadol gweithwyr cymdeithasol fel y gallant dreulio mwy o amser gyda phreswylwyr) 
  • lle bydd profiad y cwsmer yn cael ei wella, fel arfer mewn sefyllfaoedd lle bydd amseroedd prosesu trafodion cyflymach yn gwella'r profiad 

Siaradodd llawer am yr angen i fod yn bragmatig iawn wrth ddechrau gyda RPA. Roedd hyn yn aml yn cynnwys dechrau gyda phrosesau sy'n eiddo i dimau sy'n barod i gymryd rhan, yn hytrach na'r rhai a allai gael yr effaith fwyaf o ran rhyddhau capasiti cyfwerth ag amser llawn neu wella profiad cwsmeriaid.

Rydym yn dod i'r casgliad hwn – i ddechrau o leiaf – gan nad yw ymdrechion awtomeiddio o reidrwydd yn cael eu mandadu'n ffurfiol gan uwch arweinwyr. Fodd bynnag, dywedodd pawb fod arweinwyr uwch yn cefnogi RPA. 

Disgrifiodd llawer o'r ymatebwyr bod gweithdai wedi cael eu trefnu er mwyn gallu ymgysylltu a staff ynghylch RPA. Mae sawl pwrpas i ymgysylltu o'r fath:

  • Arddangos robot meddalwedd ar waith. Teimlwyd mai dyma'r ffordd orau o helpu cydweithwyr i ddeall RPA. 
  • Rhoi sicrwydd y byddai RPA yn cael ei ddefnyddio i gydweithio â chydweithwyr, gan wneud rhai o'u tasgau mwyaf ailadroddus yn hytrach nag i ddisodli staff. 
  • Anogaeth ymysg cydweithwyr i gymryd rhan. 
  • Adnabod a thrafod ymgeiswyr posibl ar gyfer RPA.

Disgrifiodd sawl sefydliad fod ganddynt biblinell â blaenoriaeth o ymgeiswyr RPA i weithio drwyddynt.

O ran gweithredu, siaradodd llawer o ymatebwyr am: 

  • Gweithio gyda'r staff dan sylw i ddeall a mapio'r broses. 
  • Adnabod cyfleoedd i wella'r broses cyn ei awtomeiddio, yn aml trwy archwilio ei rôl yn y gwasanaeth ehangach.

Mae gan rai sefydliadau dimau penodol i gefnogi'r math hwn o weithgaredd, neu fframweithiau gwella gwasanaethau ehangach y mae'r math hwn o waith yn perthyn iddynt.

“Mae gennym ein tîm newid a gwella er enghraifft, sy'n cynorthwyo yn dadansoddi'r busnes, maen nhw'n mapio'r prosesau fel y dylent a sut y dylent fod. Maent hefyd yn gwneud rhywfaint o waith codi ymwybyddiaeth yn gynnar am yr hyn sy'n bosibl, pa fath o offer a allai wneud gwahaniaeth. "
Awdurdod lleol 5
“Wrth wraidd ein strategaeth ddigidol mae gennym rywbeth o'r enw y Rhaglen Cwsmeriaid yn Gyntaf. Mae'n defnyddio fframwaith dylunio gwasanaeth, ac rydym yn defnyddio'r fframwaith hwn i gynorthwyo gyda rhwng 2 a 3 o'n gwasanaethau pob blwyddyn. Rydym yn deall profiad defnyddwyr gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd, yn troshaenu hynny gyda phrofiad y cydweithiwr ac yna'n troshaenu hynny gyda phrosesau a thechnoleg."
Cymdeithas tai grŵp

Clywsom ymatebion cymysg o ran sut mae mesur llwyddiant. Roedd y rhain yn amrywio o fesurau llwyddiant yn cael eu hymgorffori i broses weithredu sefydliad. Roedd eraill yn cyfaddef bod hyn yn rhywbeth yr oedd angen iddynt ei wella.  

Fodd bynnag, gallai sawl ymatebydd rannu mesurau llwyddiant pendant yn ystod cyfweliadau, gan nodi bod astudiaethau achos yn cael eu datblygu. 

“Mae RPA wedi lleihau cost ein trafodion Taliadau Tir 95% a chost pob trafodiad o'n trafodion Taliadau Cyflymach 91%. Ac o ran arbed amser, o ran Taliadau Tir, rydym yn arbed 500 awr y flwyddyn. Mae'r amser y mae'n cymryd i brosesu Taliadau Cyflymach wedi'i lleihau 50%. Ac mae lefel cywirdeb y prosesau yn 100%, gan leihau ymhellach yr amser y mae angen i'r tîm ei dreulio yn mynd i'r afael â gwallau."
Awdurdod lleol 2

Adnoddau

Gwnaethom archwilio sut mae sefydliadau'n darparu adnoddau ar gyfer gweithrediadau RPA o safbwynt sgiliau a gallu.

Disgrifiodd yr holl ymatebwyr fod ganddynt allu mewnol i ddatblygu. Mae'r rhain yn amrywio o ran maint a pha mor soffistigiedig ydynt, fel y disgwylid gyda sefydliadau o wahanol feintiau ac oedrannau.  Dywedodd un awdurdod lleol eu bod wedi alinio eu rolau â'r Fframwaith Galluoedd Digidol a Phroffesiwn Data.

Mae pob un ohonynt wedi cael cefnogaeth RPA gan sefydliadau trydydd parti. Mae hyd y cymorth allanol hwn yn amrywio, gydag un awdurdod lleol yn defnyddio cyflenwr allanol i ddechrau, tra bod gan eraill berthnasoedd tymor hwy.

Mae llawer yn bwriadu trosglwyddo i hunangynhaliaeth dros amser, gydag un darparwr yn cael ei grybwyll gan nifer o ymatebwyr fel un sy'n cefnogi trosglwyddo gwybodaeth i'r sefydliadau y maent yn gweithio gyda nhw.  

Mae rhai wedi sefydlu neu yn bwriadu sefydlu canolfannau rhagoriaeth, naill ai'n benodol ar gyfer RPA neu yn ehangach ynghylch cwmpasu technolegau eraill hefyd, gan ganolbwyntio ar drawsnewid digidol neu arloesi.

Mae eraill wedi gwneud penderfyniadau ymwybodol i beidio â sefydlu canolfannau rhagoriaeth, gan ddewis dibynnu ar drydydd parti yn lle hynny.