Cyflwyniad

Mae gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) weledigaeth:

“Mae gwasanaethau cyhoeddus digidol wedi'u cynllunio o amgylch y bobl sy'n eu defnyddio ac maent yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.”

Credwn fod awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (AI) yn dechnolegau pwerus a allai, o'u defnyddio'n gywir, helpu i gyfrannu at y weledigaeth hon. 

Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol i ddeall agweddau, arferion, prosesau a sgiliau ynghylch y technolegau hyn ar draws awdurdodau lleol a chyrff hyd braich ledled Cymru. 

Gwnaethom ddadansoddi ein canfyddiadau i nodi sut i helpu a chefnogi ein defnyddwyr ymhellach i elwa ar y technolegau hyn. Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar y gwaith hwnnw.

Datganiad o broblem

Er mwyn darparu cymorth pellach, sy'n ystyrlon ac o werth, mae angen dealltwriaeth glir arnom o agweddau, arferion, prosesau a sgiliau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial presennol y sector cyhoeddus, i ddeall sut olwg allai fod ar gymorth yn y dyfodol.

Ar ddiwedd 2023, bu CDPS a Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol yn cydweithio i archwilio aeddfedrwydd a pharodrwydd ar gyfer awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial ar draws sector cyhoeddus Cymru.  

Roedd hyn er mwyn deall yn well pa gymorth pellach y gallwn ei ddarparu i sicrhau bod y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio i wella gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd ddiogel, foesegol a thryloyw. 

Diffiniadau

At ddibenion y darganfyddiad hwn, gwnaethom ddiffinio'r hyn yr oeddem yn ei olygu wrth awtomeiddio, awtomeiddio prosesau robotig a deallusrwydd artiffisial a rhannu'r diffiniadau hyn gydag ymatebwyr ar ddechrau pob cyfnod rhyngweithio ymchwil fel bod cyfranogwyr yn cyd-fynd â'r telerau a'r cysyniadau.

Awtomeiddio

Defnyddio technoleg i gyflawni tasgau gyda llai o gyfranogiad dynol.

Awtomeiddio ar ffurf proses robotig (RPA)

Is-set o dechnoleg awtomeiddio sy'n defnyddio meddalwedd robotiaid i gyflawni tasgau syml sy'n seiliedig ar reolau trwy ryngwynebau defnyddwyr.

Gellir cyfuno RPA ag ymennydd AI i gyflawni tasgau mwy cymhleth.

Deallusrwydd artiffisial (AI)

Term ymbarél ar gyfer ystod o dechnolegau a dulliau sy'n aml yn ceisio dynwared meddwl dynol i ddatrys tasgau cymhleth.

Dull 

Dulliau ymchwil

Cyfweliadau

Buom yn siarad â chynrychiolwyr o 11 sefydliad sector cyhoeddus. Roedd y rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff hyd braich ac 1 cymdeithas dai. Roedd lleoliadau'r sefydliadau hyn yn ymestyn o un pen o Gymru i'r llall.

Cymerodd pob mudiad ran mewn cyfweliad ansoddol, lled-strwythuredig, manwl.  Parhaodd 8 o'r cyfweliadau hyn 90 munud a 3 ohonynt 60 munud. Archwiliwyd yr un pynciau ym mhob cyfweliad, gyda'r rhai 90 munud yn caniatáu i fwy o fanylion gael eu casglu.  

Cynhaliwyd y cyfweliadau gyda rhwng 1 a 4 cynrychiolydd o bob sefydliad. Roedd amrywiaeth o rolau yn gysylltiedig, gan gwmpasu arbenigedd mewn technoleg gwybodaeth, y maes digidol, data, trawsnewid a phrofiad y cwsmer. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys arweinwyr ac ymarferwyr.  

Cynhaliwyd y cyfweliadau ar ffurf galwad fideo. Cofnodwyd pob galwad er mwyn gallu eu dadansoddi yn ddiweddarach. 

Arolwg

Fe wnaethon ni greu arolwg ar-lein i'n galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd hyn yn cynnwys yr is-set o'r cwestiynau a drafodwyd yn y cyfweliadau.

Dadansoddiad

Cynhaliwyd dadansoddiad thematig trwy gymryd dyfyniadau air am air o'r holl drawsgrifiadau cyfweliad a'u rhoi ar fwrdd gwyn digidol. Ychwanegwyd sylwadau a gyflwynwyd yn sgil yr arolwg at y bwrdd hwn, ynghyd â mewnwelediadau o'r sgyrsiau. Rhannwyd y data hwn yn themâu cylchol.  

Cyfunwyd y canfyddiadau a'u gwneud yn ddienw i annog ymatebion gonest gan gyfranogwyr ymchwil.

Ymatebwyr

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr ymchwil hon.

Cyfweliadau

Gwnaethom gynnal cyfweliadau gyda:

7 awdurdod lleol: 

  • Caerffili 
  • Caerdydd 
  • Sir Gaerfyrddin 
  • Gwynedd 
  • Castell-nedd Port Talbot 
  • Sir Benfro 
  • Powys 

3 corff hyd braich: 

  • Gyrfa Cymru 
  • Cyfoeth Naturiol Cymru 
  • Awdurdod Cyllid Cymru 

1 Cymdeithas tai: 

  • Di-enw 

Arolygon

Cwblhaodd y canlynol yr arolwg: 

4 awdurdod lleol: 

  • Ceredigion 
  • Ynys Môn 
  • Sir Fynwy 
  • Bro Morgannwg

5 corff hyd braich/arall: 

  • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Cadw (2 arolwg) 
  • Coleg Gŵyr Abertawe 
  • Senedd Cymru 
  • Trafnidiaeth Cymru 

Cyfyngiadau ymchwil

Daethom ar draws y cyfyngiadau canlynol yn ystod yr ymchwil hwn: 

  • Oherwydd cyfyngiadau amser, ni wnaethom siarad â chynrychiolwyr o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ond rydym yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd penodol sy'n gysylltiedig â gweithredu deallusrwydd artiffisial moesegol. 
  • Roedd mwy na hanner y sefydliadau a ymatebodd yn awdurdodau lleol, sy'n golygu bod ein data wedi'i bwysoli'n fwy sylweddol tuag atynt.