Trosolwg
Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru wedi’i ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae'n diffinio arfer da wrth ddylunio a rhedeg gwasanaethau cyhoeddus gwell i Gymru. Mae'n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.
Mae'r Safon wedi'i ffurfio o 12 pwynt wedi'u rhannu'n 3 chategori. Mae'n rhaid bodloni pob un o'r 12 pwynt i gwrdd â’r Safon.
Cynnwys
Bodloni anghenion defnyddwyr
- Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol
- Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg
- Deall defnyddwyr a’u hanghenion
- Darparu profiad cydgysylltiedig
- Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth
Creu timau digidol
- Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso
- Sefydlu tîm amlddisgyblaethol
- Ailadrodd a gwella’n aml
- Gweithio’n agored
Defnyddio’r dechnoleg iawn
- Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa
- Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam
- Defnyddio data i wneud penderfyniadau