10. Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa 

Defnyddiwch yr offeryn symlaf a mwyaf priodol, a cheisiwch osgoi cael eich dal yn gaeth i gontractau ar gyfer technolegau penodol. 

Gadewch i’ch tîm ddefnyddio’r offer sy’n gweithio iddyn nhw. Anogwch nhw i ddefnyddio offer sy’n bodloni safonau agored, sydd wedi’u seilio ar y cwmwl ac sy’n cael eu cefnogi’n eang. 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae dewisiadau technoleg yn cael effaith enfawr ar sut mae sefydliadau’n creu, ailadrodd a chynnal gwasanaethau. Mae’n rhaid i dechnoleg beidio â rhwystro gallu timau i weithio ar y cyd. 

Sut i ddechrau arni   

Dylech: 

  • wneud penderfyniadau technoleg a arweinir gan ddefnyddwyr, rhai sy’n gwella gallu’r tîm i fodloni anghenion defnyddwyr 
  • datblygu gwasanaethau mewn ieithoedd meddalwedd cyffredin 
  • manteisio ar dechnolegau agored sydd wedi’u seilio ar y cwmwl a chwalu’r ddibyniaeth ar systemau anhyblyg a drud  
  • os oes angen i chi brynu technoleg neu wasanaethau gan werthwr, cynhwyswch y safonau gwasanaeth digidol hyn yn rhan o’r broses gaffael a rheoli cyflenwyr yn barhaus  

11. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam 

Mae’n rhaid i wasanaethau digidol ddiogelu gwybodaeth sensitif a chadw data’n ddiogel. Dylech fynd i’r afael â materion moesegol sy’n gysylltiedig â phob gwasanaeth digidol ar bob cam o’u datblygiad. 

Pam mae hyn yn bwysig    

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dal gwybodaeth bersonol a sensitif am ddefnyddwyr. Mae’n rhaid i wasanaethau fod yn ddiogel er mwyn cadw ymddiriedaeth defnyddwyr. 

Sut i ddechrau arni   

Dylech: 

  • ystyried canlyniadau bwriadol ac anfwriadol y gwasanaeth i ddefnyddwyr – os oes canlyniadau negyddol, meddyliwch am sut bydd y rhain yn cael eu datrys neu’n dylanwadu ar benderfyniadau  
  • amlygu bygythiadau diogelwch gwybodaeth a phreifatrwydd i’r gwasanaeth a’u datrys fel bod systemau’n aros yn ddiogel ac yn diogelu preifatrwydd 
  • gwneud profi diogelwch yn rhan o’ch trefn cynnal a chadw arferol 

12. Defnyddio data i wneud penderfyniadau

Mesurwch ba mor dda y mae gwasanaethau’n gweithio i ddefnyddwyr yn gyson. Dylech ddefnyddio data perfformiad i flaenoriaethu gwelliannau. Os oes modd, dylai’r dull o gasglu’r data hwnnw fod yn awtomataidd ac ar y pryd, i’w wneud mor wrthrychol a hawdd ei gasglu â phosibl.  

Profwch newidiadau ailadroddol i wasanaethau gyda defnyddwyr. Dylai uwch arweinwyr gymryd rhan mewn gwaith ymchwil yn rheolaidd hefyd, er mwyn iddynt ddeall profiad y defnyddiwr. 

Pam mae hyn yn bwysig 

Mae angen i chi ddeall pa ddata fydd yn eich helpu i fodloni anghenion defnyddwyr. Mae data’n dweud mwy wrthych am y gwasanaeth ac yn gallu cael ei rannu ymhlith sefydliadau perthnasol i wella profiad defnyddwyr.   

Dylech fonitro perfformiad y gwasanaeth i gael gwybod ei fod yn parhau i ddatrys y broblem i ddefnyddwyr. Mae dadansoddeg amser real yn dangos sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â’r gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau y mae angen eu datrys o hyd.  

Sut i ddechrau arni 

Dylech: 

  • feddwl am ba ddata sydd gennych eisoes a sut y gallai wella profiad y defnyddiwr  
  • meddwl am ba ddata y gallwch ei gael gan eraill neu ei rannu am eich gwasanaeth er mwyn bodloni anghenion defnyddwyr yn well 
  • diffinio metrigau perfformiad o flaen llaw fel eich bod yn gwybod beth yw perfformiad da a sut y caiff ei fesur  
  • monitro ymddygiad defnyddwyr ar y pryd trwy ddadansoddeg i bennu pa mor dda y mae’r gwasanaeth yn bodloni anghenion defnyddwyr  
  • defnyddio data perfformiad i wneud penderfyniadau am yr hyn y mae angen ei wella