26 Awst 2021

Ym mis Mawrth 2021, cynorthwyodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) Gyngor Caerffili i weithio gyda dau ymchwilydd defnyddwyr ar ddarn o waith i ddeall mwy am allgáu digidol a’r rhesymau pam mae preswylwyr yn cael trafferth mynd ar-lein. Yn y postiad blog gwadd hwn, mae Caroline Millington o Gyngor Caerffili yn ymhelaethu ar y prosiect a beth maen nhw wedi bod yn ei wneud.

Deall anghenion ein defnyddwyr – ein cyflwyniad i ymchwil defnyddwyr

Rydyn ni yn adran Dysgu Cymunedol i Oedolion (ACL) Caerffili wedi bod yn ymwybodol ers tro bod rhai o’n preswylwyr lleol yn ei chael hi’n anodd mynd ar-lein. Yn anecdotaidd, fe glywson ni nifer o resymau am hyn, gan gynnwys hyder, sgiliau digidol, a diffyg dyfeisiau/cysylltedd digidol. Ers yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cynnal dosbarthiadau llythrennedd digidol rhad ac am ddim, ac er bod pobl wedi mynychu’r dosbarthiadau hyn, roedden ni’n teimlo bod llawer o aelodau’r gymuned ar goll o hyd.

I helpu gyda hyn, fe ddechreuon ni gynnal sesiynau galw heibio Llythrennedd Digidol un-i-un. Cafwyd cyllid ar gyfer dyfeisiau trwy’r gronfa Digidol 2030 ac fe ddarparon ni’r cyllid ar gyfer y tiwtoriaid. Pan darodd Covid, gohiriwyd y sesiynau, ond fe gwblhaon ni’r rownd gytunedig o gyrsiau yn y pen draw ym mis Mawrth 2021. Ar ddiwedd y rownd hon, roedd angen i ni ystyried sut gallem barhau i ariannu’r sesiynau hyn.

Ochr yn ochr â thri awdurdod lleol arall ac un ymddiriedolaeth hamdden (Aneurin Leisure, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen), fe gyflwynon ni gais am gyllid gan y gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol i geisio gwella mynediad at ddigidol. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol, ond roedd y gronfa’n gofyn cwestiwn allweddol: ble oedd ein tystiolaeth o anghenion defnyddwyr o ran yr allgáu digidol y sonion ni amdano yn y cais?

Awgrymodd tîm y gronfa ein bod yn gweithio gyda dau awdurdod lleol arall a oedd wedi cyflwyno ceisiadau am fentrau tebyg (Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg), i lunio cais darganfod wedi’i seilio ar ymchwil Allgáu Digidol ar draws y rhanbarthau.  

Cymeradwywyd ein cais ar y cyd a rhoddwyd cyllid i ni a’n helpodd i gyflogi ymchwilydd defnyddwyr i gynnal y gwaith ymchwil allgáu digidol. Gyda chymorth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, fe reolon ni’r broses gaffael gan ddefnyddio’r Farchnad Ddigidol. Roedd hyn yn newydd i ni, ond roedd yn broses gyflymach o lawer na’n gweithdrefn gaffael arferol. Erbyn diwedd y broses, roedden ni wedi llwyddo i benodi Izzie o Basis Ltd i gynnal y gwaith ymchwil.

Ein profiad cyntaf o ymchwil defnyddwyr

Dyma oedd profiad cyntaf ACL Caerffili o wneud gwaith ymchwil defnyddwyr ac roedd yn broses fuddiol iawn. Roedd gan yr awdurdodau lleol eraill a’r ymddiriedolaeth gysylltiadau eisoes a allai gymryd rhan yn y gwaith ymchwil yn eu bwrdeistrefi, o bosibl, ac roedd hyn wedi helpu i gyflymu pethau. Bydd Izzie yn esbonio mwy am hyn yn ein postiad blog nesaf.

Yng Nghaerffili, fe ddefnyddion ni ein cysylltiadau yn y ddwy ddarpariaeth gyflogadwyedd allweddol yn ogystal â gwneud cysylltiadau newydd mewn adrannau gwahanol (tai, budd-daliadau, cyfathrebu, gofal cwsmeriaid, ac ati).

Gyda chymorth a chyngor gan y tîm ymchwil, fe lwyddon ni i dargedu preswylwyr/grwpiau a oedd yn fwyaf perthnasol i’r gwaith ymchwil. O’r dechrau, sicrhaodd Izzie fod cyswllt yn cael ei wneud a’i gynnal gyda phob awdurdod lleol, naill ai fel grŵp neu’n unigol. Rhoddwyd diweddariadau a gwnaed cynlluniau yn y sesiynau prynhawn dydd Gwener wythnosol. Yna, aeth staff ati i gyflawni’r tasgau a chawsant eu hadolygu. Fe wnaeth hyn gynnal momentwm y gwaith ymchwil ac ymgysylltiad â’r grwpiau targed drwy gydol y cyfnod.

Y canfyddiadau

Bydd ein hymchwilydd defnyddwyr, Izzie Hurrell, yn blogio am y dull o gynnal y gwaith ymchwil defnyddwyr a’r hyn a ddysgon ni, ond roedd y dull yn golygu y gallem ddechrau canolbwyntio ar y materion yr oedd defnyddwyr yn eu hwynebu yn hytrach na’r pethau yr oedden ni’n credu efallai eu bod yn achosi problem.

Beth nesaf?

Bellach, rydym yn gobeithio defnyddio’r ymchwil fel sail i wella’n gwasanaethau. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ei ddiben bwriadedig ac yn helpu i ffurfio ein camau nesaf.

Rydyn ni hefyd eisiau cadw’r bartneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol a’r ymddiriedolaeth i fynd. Dydyn ni ddim yn gwybod sut byddwn yn gwneud hyn eto, ond rydyn ni’n awyddus i barhau i gydweithio.  

Ers i’r gwaith ymchwil gael ei rannu, rydyn ni wedi cyflwyno’r adroddiad i Fwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru, lle y gwnaed cysylltiadau â chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau ledled Cymru (e.e. Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, Cymunedau Digidol Cymru). Gobeithir y gallwn ddefnyddio’r cysylltiadau hyn i helpu i wthio’r gwaith ymchwil yn ei flaen fel y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer ei ddiben bwriadedig: i wneud newidiadau cadarnhaol i breswylwyr yn y rhanbarthau, ond hefyd i breswylwyr yng Nghymru gyfan.