10 Chwefror 2022

Rydym yn falch iawn o groesawu Rhiannon Lawson i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) fel Pennaeth Safonau dros dro. 

Mae Rhiannon wedi gweithio ym maes technoleg ar draws y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach ers 6 blynedd, ac yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Moderneiddio Technoleg, Dylunio Gwasanaethau a Safonau Technoleg yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth a'r Swyddfa Digidol a Data Ganolog.  

Mae'r Safonau Gwasanaeth Digidol wrth wraidd popeth a wnawn yn CDPS. Maen nhw'n helpu sefydliadau i ystyried yr holl elfennau sy'n arwain at wasanaethau gwell i bobl Cymru. 

Rydym eisiau i'r holl sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ymgorffori dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn yr holl wasanaethau maen nhw'n eu darparu. Bydd rôl Rhiannon yn hollbwysig wrth sicrhau bod y safonau'n cael eu deall, eu mabwysiadu a'u hymgorffori er mwyn darparu gwasanaethau a chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr.

Rhiannon Lawson
Rhiannon Lawson

Bydd Rhiannon yn arwain y broses o ddatblygu llawlyfr gwasanaeth - a fydd yn dod â'r safonau'n fyw, yn dangos enghreifftiau o arfer da ac yn darparu offer i helpu sefydliadau i'w mabwysiadu nhw'n rhwydd. 

Bydd Rhiannon hefyd yn gyfrifol am unrhyw fersiynau parhaus o'r safonau ac yn sefydlu a rheoli bwrdd safonau, gan weithio'n agos gyda'r prif swyddogion digidol ym maes llywodraeth leol ac iechyd, ac yn Llywodraeth Cymru. 

Y tu allan i'r gwaith, mae Rhiannon yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad 5Rights, sy'n ymgyrchu dros fyd digidol lle mae plant a phobl ifanc yn ffynnu. Mae hi'n cyflwyno podlediad gyda thair o'i chyfeillion (The Unfairer Sex) ac mae'n forwyn briodas fynych, yn aelod selog o'r gampfa ac yn dwlu ar ddinosoriaid.