20 Ionawr 2021

Yn dilyn canfyddiadau ein cam darganfod, rydyn ni bellach wedi symud ymlaen i gam Alffa ein Prosiect Gweddnewid Digidol Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac wedi creu neges destun diweddaru statws a gwefan prototeip. Lluniwyd y rhain i roi diweddariadau i bobl am eu cais i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gan olygu bod llai o rwystredigaeth a dryswch ynglŷn â beth sy’n digwydd. Drwy gydol y cam hwn, rydym wedi bod yn profi ein syniadau gyda defnyddwyr go iawn i werthuso p’un a ydynt yn bodloni anghenion defnyddwyr.

Beth yw profi defnyddioldeb?

Mae profi defnyddioldeb yn ddull ymchwil defnyddwyr allweddol a ddefnyddir i werthuso prototeipiau (syniadau dylunio rydyn ni wedi’u troi’n rhywbeth y gall pobl ryngweithio ag ef). Mewn prawf defnyddioldeb, gofynnir i bobl a fyddai fel arfer yn defnyddio’r gwasanaeth neu’r cynnyrch sy’n cael ei ddylunio gyflawni tasgau nodweddiadol i roi gwybod i ni ba mor dda mae’r prototeipiau hyn yn gweithio. 

Yn aml, cyfeirir at brofi defnyddioldeb fel ‘safon aur’ dulliau gwerthuso profiad defnyddwyr, ac mae rheswm da am hynny. Mae’n caniatáu i ni gasglu data wedi’i arsylwi, yn ogystal â data wedi’i adrodd. Mewn geiriau eraill, mae’n ein galluogi i weld sut mae ein syniadau’n gweithio a sut gellir eu gwella, yn hytrach na dibynnu ar yr hyn rydyn ni’n ei glywed amdanyn nhw yn unig. 

Aros yn ddiogel – profi defnyddioldeb o bell

Mae’n fwyaf hwylus profi defnyddioldeb yn bersonol yn y fan a’r lle, oherwydd gall yr ymchwilydd arsylwi mwy: beth mae’r cyfranogwr yn canolbwyntio arno? Beth mae iaith ei gorff yn ei ddweud wrthym? 

Fodd bynnag, er mwyn i’n cyfranogwyr a ni ein hunain aros yn ddiogel yn ystod COVID, rydyn ni wedi dewis cynnal ein holl waith ymchwil o bell. Yn aml, cynhelir profi defnyddioldeb o bell gan ddefnyddio offer fideogynadledda fel Zoom neu Microsoft Teams, sy’n golygu y gallwn rannu’r sgrîn i ddangos ein dyluniadau, a hyd yn oed ganiatáu i’r cyfranogwr reoli’r llygoden fel y gall grwydro o amgylch y sgrîn ei hun. Mae hefyd yn caniatáu i ni weld sut mae pobl yn ymateb. 

Er bod y dull hwn yn gallu gweithio’n dda gyda phobl sy’n hyderus wrth ddefnyddio technoleg, gall rwystro’r rhai sy’n llai cyfarwydd rhag cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. O ystyried ein bod yn canolbwyntio ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion, mae llawer o’n defnyddwyr yn llai cyfarwydd â thechnoleg, ac roedd yn hollbwysig ein bod yn eu cynnwys yn ein gwaith ymchwil i werthuso ein dyluniadau’n iawn a sicrhau eu cyfraniad gwerthfawr. 

Sut gallwn ni brofi defnyddioldeb o bell pan na allwn ddefnyddio meddalwedd fideogynadledda? 

I fynd i’r afael â’r broblem hon, fe benderfynon ni rannu ein hymagwedd. Gyda’r rhai a oedd yn gyfforddus yn defnyddio meddalwedd fideogynadledda, cynhalion ni ein sesiynau yn y modd hwnnw. Gyda’r rhai a oedd yn llai cyfarwydd, cynhalion ni sesiynau dros y ffôn. “Ond sut gall prawf defnyddioldeb gael ei gynnal dros y ffôn?” fe’ch clywaf yn gofyn! 

Dyma’r camau a gymeron ni i sicrhau y gallem gael canfyddiadau dilys yn y modd hwn: 

  • treulio amser yn ffurfio perthynas o flaen llaw – mae ffurfio perthynas ar ddechrau sesiynau ymchwil yn allweddol i helpu pobl i deimlo’n gyfforddus yn yr hyn sy’n gallu bod yn sefyllfa eithaf anghyfarwydd weithiau. Mae’n helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo’n gyfforddus i ddweud y gwir wrthych am eich prototeip, ac yn eich helpu chi fel ymchwilydd i ddeall sut maen nhw’n hoffi cyfathrebu. Mae cynnal sesiynau dros y ffôn yn rhoi llai o gyfle i ffurfio perthynas oherwydd y ffaith na allwch weld eich gilydd. Llais rhyfedd ar ben arall y ffôn ydych chi yn unig, i bob pwrpas. Felly, sut gallwch chi wneud i hyn deimlo’n llai rhyfedd i bobl? 

Gallwn wneud iawn am yr hyn a gollwn mewn arwyddion gweledol trwy dreulio mwy o amser yn siarad. I wneud hyn, fe alwon ni bob cyfranogwr o flaen llaw i drefnu ei sesiwn, ac i dreulio ychydig o amser yn sgwrsio. Roedd hyn yn golygu, pan ddaeth yr amser i godi ein ffonau ar gyfer y sesiwn, ein bod yn adnabod ein gilydd ac roedd y sefyllfa’n teimlo’n fwy cyfarwydd i’r cyfranogwyr. Mae hyn yn ein harwain at bwynt 2…

  • rhoi gwybod i’r cyfranogwyr beth i’w ddisgwyl o’r sesiwn o flaen llaw – Roedd yn bwysig sicrhau bod pobl yn gyfforddus â ni fel ymchwilwyr, a hefyd yn gyfforddus â’r sesiwn ei hun. Fe achubon ni ar y cyfle yn yr alwad ffôn gychwynnol i esbonio ychydig am strwythur y sesiwn a beth i’w ddisgwyl (heb ddatgelu gormod o flaen llaw!) Roedd hyn yn golygu, pan ddaeth yr amser i bobl gymryd rhan, eu bod yn deall y cynllun yn well a beth oedd eu rôl, gan helpu’r profiad cyfan i deimlo’n fwy hamddenol, a’n helpu ni i ganolbwyntio ar y gwaith ymchwil dan sylw
  • canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei arsylwi – heb wybodaeth weledol fel mynegiadau’r wyneb ac iaith y corff, mae llawer llai i’w arsylwi. Fodd bynnag, mae pethau y gallwn sylwi arnynt o hyd: goslef llais pobl, y geiriau maen nhw’n eu defnyddio, unrhyw seibiannau wrth iddynt siarad. Pan na allwn weld yr hyn y mae rhywun yn ei wneud ar sgrîn, mae’n bwysig ein bod yn sylwi ar y pethau hyn, oherwydd gallant ddweud llawer wrthym
  • annog pobl i feddwl yn uchel – yn ogystal ag arsylwi, gallwn hefyd ofyn i bobl ddisgrifio beth maen nhw’n ei wneud, a beth maen nhw’n ei feddwl wrth ei wneud. Gelwir hyn yn dechneg ‘meddwl yn uchel yn gydamserol’ ac mae’n ein helpu i greu darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd, yn enwedig pan na allwn ei weld. Mae hyn yn gallu teimlo’n eithaf annaturiol, felly gallwch ychwanegu at y dechneg hon pan fydd angen trwy ofyn cwestiynau i annog pobl i siarad
  • cyswllt dilynol – arfer da cyffredinol yw hyn, yn yr un modd â’r pwyntiau eraill ar y rhestr hon, ond mae’n bwysicach fyth pan nad ydych wedi cael cyfle i gyfarfod â’ch cyfranogwyr. Fe ganfuon ni, ochr yn ochr ag anfon talebau drwy’r post, ei bod yn ddefnyddiol anfon llythyr diolch at bob cyfranogwr, yn ogystal â thaflen wybodaeth a manylion cyswllt, fel y gallai ofyn unrhyw gwestiynau neu wneud unrhyw geisiadau dilynol

Wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y prosiect hwn (Beta), byddwn yn parhau i gynnal ymchwil defnyddwyr i sicrhau bod y negeseuon testun a’r wefan yn werthfawr i’r bobl sy’n eu defnyddio.