Sut i wneud profion amlygu

I brofi’r cynnwys, rydych chi’n rhoi darn o gynnwys i grŵp o ddefnyddwyr ac yn gofyn iddyn nhw amlygu’r testun.

Gallwch ddefnyddio amlygwr gwahanol liwiau i ddeall gwahanol emosiynau, er enghraifft:

  • gellid defnyddio glas i danlinellu cynnwys sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hyderus am y gwasanaeth
  • gellid defnyddio pinc i ddangos geiriau neu frawddegau a oedd yn ddryslyd neu’n gamarweiniol

Pan fyddwch wedi casglu’r holl ymatebion, bydd gennych syniad clir o sut mae’r cynnwys wedi gwneud i bobl deimlo a dylai fod gennych rai themâu a meysydd clir i weithio arnynt.

Teclynnau

Mae modd gwneud y math yma o brofi ar-lein gan ddefnyddio teclyn fel Microsoft Word neu Google Docs.

Mae hefyd yn effeithiol pan mae’r dudalen wedi ei hargraffu, ac mae pobl yn cwblhau’r dasg yn ffisegol.

Dysgu mwy am brofi amlygu