Yn addas ar gyfer

  • Y rhai sy'n gweithio yn sector cyhoeddus Cymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio'r gofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.
  • Unigolion sydd â mynediad at ddefnyddwyr ac sydd mewn timau digidol neu drawsnewid gwasanaethau.
  • Unigolion sy'n gallu gweithredu dysgu ac ymchwil yn eu rôl bob dydd.

Cwrs a ddatblygwyd gan David Travis a'i gyflwyno gan CDPS.

Mae'r cwrs hwn ar hyn o bryd yn y cyfnod iteriad cynnar, felly rydym yn cyfyngu ein carfannau cyntaf i'r rhai sydd mewn timau  trawsnewid gwasanaethau a digidol.

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella ein cyrsiau i eraill drwy gymryd rhan yn ein hymchwil.

Canlyniadau'r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i:

  • ddatgloi anghenion defnyddwyr
  • cymedroli prawf defnyddioldeb
  • cynllunio ymchwil o fewn fframwaith hyblyg
  • dehongli data o ymchwil maes i greu map taith
  • nodi a blaenoriaethu tasgau i brofion defnyddioldeb
  • dehongli ymchwil i ddefnyddwyr

Sut byddwch chi'n dysgu

  • Darperir yn Saesneg ar hyn o bryd – cysylltwch os oes gennych ofynion Cymraeg.
  • Cyflwynir yn fyw ar Microsoft Teams gyda deunyddiau a gweithgareddau ategol ar Google Classroom – bydd angen Cyfrif Google i gymryd rhan.
  • Dros 9, 3 awr o sessiwn (cyfanswm o 27 awr o hyfforddiant byw).
  • 12 unigolyn ym mhob sesiwn.
  • Gweithgareddau yn y sesiwn i'ch helpu yn eich dysgu.
  • Rhywfaint o waith cartref rhwng sesiynau.
  • Cyfle i ddal fyny ar ôl i'r cwrs ddod i ben i weld sut mae’r dysgu wedi'i cael ei roi ar waith.

Diweddariad am ein cyrsiau – mewn ymateb i’r galw, rydym yn ychwanegu dull hyfforddi anghydamserol Google Classroom i’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio i hyfforddi. Bydd gennych yr hyblygrwydd i reoli eich dysgu eich hun gyda chefnogaeth ac adnoddau gan ein hyfforddwyr.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer ein fersiwn gyhoeddus gyntaf rydym yn gwahodd darpar unigolion i ymuno y rhestr aros.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn mewn cysylltiad pan fydd y dyddiadau ar agor.