Roedd y prosiect darganfod hwn yn archwiliad eang o broblem fawr a chymhleth. Ei fwriad oedd amlygu cyfleoedd ar gyfer gwaith mwy penodol, a all ddeall y materion mwyaf allweddol a amlygwyd yn well a cheisio datrysiadau iddynt. 

Rydym wedi amlygu sawl mater sy’n ymddangos yn gyffredin mewn ymarfer cyffredinol yng Nghymru. Yn aml, nid yw’r datrysiadau digidol sydd eisoes yn bodoli a allai helpu i fynd i’r afael â nhw wedi cael eu rhoi ar waith mewn ffordd sy’n bodloni anghenion defnyddwyr nac yn integreiddio’n dda â gweddill gweithrediad practis. Mewn rhai achosion, nid oes dealltwriaeth dda o’r problemau sylfaenol. 

O ganlyniad, yn aml, nid yw’r ymyriadau digidol hyn yn gweithio’n dda ar eu ffurf bresennol ac nid ydynt yn cyflawni’r canlyniadau cadarnhaol a ddisgwylir ar gyfer dinasyddion na phractisiau. 

Sylwch nad beirniadaeth o’r meddygfeydd unigol yw hyn. Roedd yn amlwg eu bod yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau heriol. 

Argymhellwn y cyfleoedd canlynol ar gyfer gwaith ychwanegol: 

  1. Dealltwriaeth well o natur y galw mewn meddygfeydd. Mae’n debygol y gallai rhywfaint o’r ceisiadau sy’n dod i mewn i bractisiau gael eu gwasanaethu’n well mewn ffyrdd gwahanol neu eu hosgoi yn gyfan gwbl. Nid yw practisiau’n tueddu i feddu ar yr adnoddau i wneud y gwaith casglu a dadansoddi data sy’n ofynnol i gyflawni dealltwriaeth o’r math hwn. 

  2. Archwilio ffyrdd o gyflawni mwy o gysondeb yn y ffordd y ceir mynediad at wasanaethau meddyg teulu, ar draws practisiau. Mae hyn yn bwysig er mwyn lleihau annhegwch posibl o ran canlyniadau iechyd i ddinasyddion i’r eithaf. 

  3. Profi pa ganlyniadau y gellir eu cyflawni gyda set o ddulliau amlsianel i gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu, sydd wedi cael eu dylunio a’u profi i weithio gyda’i gilydd, o amgylch anghenion dinasyddion a phractisiau. Gallai hyn wella mynediad ar gyfer dinasyddion a lleihau’r galw ar bractisiau. 

  4. Profi pa ganlyniadau y gellir eu cyflawni trwy alluogi a hyrwyddo mynediad ar-lein at gofnodion iechyd cryno dinasyddion. Gallai hyn arwain at leihau’r galw dros amser, ochr yn ochr â buddion eraill posibl. Byddai dealltwriaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth o’r buddion a’r anfanteision yn caniatáu i bractisiau neu glystyrau sy’n ystyried cymryd y cam hwn wneud penderfyniadau gwybodus. 

  5. Archwilio sut gall dinasyddion a staff gofal sylfaenol gael eu cynnwys fel mater o drefn mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar sut mae gofal sylfaenol yn cael ei ddarparu. Mae cynnwys y rhai hynny y mae polisïau neu offer digidol yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wrth ddylunio, dewis neu brofi proses yn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni’r canlyniadau disgwyliedig, a lliniaru canlyniadau anfwriadol.