Cyfwelom â 14 o ddinasyddion ledled Cymru, a recriwtiwyd gan asiantaeth arbenigol ac a sgriniwyd am amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys grŵp oedran, rhywedd, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd, a sgiliau Cymraeg.
Roedd y sesiynau ymchwil hyn yn cynnwys cyfran uwch o bobl a adroddodd fod ganddynt iechyd gwael ac anabledd nag a welir yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn ddull sefydledig ar gyfer deall pobl ag anghenion mwy cymhleth.
Ni allwn rannu mwy o fanylion yma am resymau cyfrinachedd, oherwydd gallai hynny arwain at adnabod yr unigolion dan sylw.
Siaradom â meddygon teulu a staff meddygfa ym mhob bwrdd iechyd, trwy gyfweliadau 60-90 munud â 23 o gyfranogwyr. Amlygwyd yr unigolion hyn trwy gyfathrebu â’n rhwydweithiau a gofyn iddynt lenwi ffurflen i fynegi diddordeb. Roedd hyn wedi caniatáu i ni ddewis cyfranogwyr sy’n adlewyrchu cymysgedd o nodweddion, fel practisiau trefol/gwledig a bach/canolig/mawr, yn ogystal â lefelau amddifadedd yn nalgylch y practis.
Mae’r tablau isod yn dangos dadansoddiad o’r practisiau a’r staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw.
Rôl | Nifer |
Meddyg teulu | 7 |
Rheolwr practis | 12 |
Staff gweinyddol | 1 |
Arall | 3 |
Maint y practis | Nifer |
Bach | 3 |
Canolig | 15 |
Mawr | 5 |
Dalgylch | Nifer |
Trefol | 14 |
Gwledig | 9 |
Practisiau mewn ardaloedd o amddifadedd | Nifer |
Ardal o amddifadedd | 5 |
Ardal na ystyrir ei bod yn ardal o amddifadedd | 18 |
Gwnaethom adolygu gwaith ymchwil arall, gan gynnwys astudiaethau meintiol (casglu a dadansoddi data rhifiadol), i gryfhau’r canfyddiadau o’r samplau bach a ddefnyddiom. Defnyddiwyd yr astudiaethau eraill hyn i driongli (cymharu’r canfyddiadau) â’n gwaith ymchwil cynradd ein hunain.
Siaradom hefyd â sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol, i ddysgu am eu gwaith a’u safbwyntiau ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau meddyg teulu a dinasyddion. Roedd y rhain yn cynnwys:
-
Llywodraeth Cymru
-
Y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol
-
Byrddau iechyd lleol
-
Clystyrau gofal sylfaenol
-
Cynghorau iechyd cymuned
-
Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
-
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
-
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
-
Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Cymru
-
Iechyd a Gofal Gwledig Cymru
-
Cynrychiolwyr gweithwyr proffesiynol iechyd cymunedol a pherthynol i iechyd
-
Menter gymdeithasol
-
Darparwyr digidol masnachol