Roedd ein gwaith ymchwil wedi blaenoriaethu: 

  • siarad â defnyddwyr systemau digidol ar gyfer cleifion ym maes gofal sylfaenol i ddeall eu hagweddau tuag at dechnoleg, eu canfyddiad o ofal, beth sy’n bwysig iddynt a pham, a’u profiad blaenorol o wasanaethau gofal sylfaenol  

  • deall sut mae gofal sylfaenol yn gweithio ac yn cael ei brofi o safbwynt dinasyddion Cymru a meddygfeydd 

  • amlygu a deall ymyriadau digidol sydd eisoes yn bodoli neu sy’n dod i’r amlwg a sut maen nhw’n cysylltu â’r system gyffredinol  

  • ymchwilio i brif nodweddion ap GIG Cymru a’u deall 

  • deall y polisi ar gyfer gofal sylfaenol, gan ymgorffori’r canfyddiadau hyn yn yr adolygiad o wasanaethau gofal sylfaenol ac unrhyw gyfleoedd a amlygwn ar gyfer gwaith yn y dyfodol 

Ceisiom siarad â dinasyddion, meddygon teulu, rheolwyr practis a staff gweinyddol a derbynfa yn rhan o’r ymchwil defnyddwyr oherwydd bod y galw mwyaf yn digwydd mewn ymarfer cyffredinol. Siaradom â chynrychiolwyr fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg (iechyd y llygaid) hefyd.