Ar gyfer pwy mae'r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rheini sydd yn:
- gweithio yn sector cyhoeddus Cymru
- erioed wedi bod ar un o gyrsiau CDPS o'r blaen
- yn newydd i ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio
Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw i ddysgu yn eich pwysau. Dysgu hanfodion ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith.
Trosolwg
Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw i ddysgu yn eich pwysau.
Dysgu hanfodion ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio y gallwch eu hymgorffori yn eich gwasanaeth neu eu defnyddio ymysg eich tim, gan gynnwys:
- y gwahaniaethau rhwng y dulliau gweithio ystwyth a rhaeadr
- sut i asesu pa ddull sy'n addas i'ch gwasanaeth chi
- manteision dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ran gwasanaethau cyhoeddus
Ar gyfer pwy mae'r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rheini sydd yn:
- gweithio yn sector cyhoeddus Cymru
- erioed wedi bod ar un o gyrsiau CDPS o'r blaen
- yn newydd i ffyrdd digidol ac ystwyth o weithio
Cost
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs hwn ar gyfer sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.
Nid oes unrhyw gost i chi.
Sut mae'n gweithio
Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw y gallwch droi ato ar unrhyw adeg, yn unrhyw le:
- ewch ati i astudio elfennau'r cwrs yn eich amser eich hun, dysgwch pryd bynnag sy'n gyfleus i chi
- trefnwch eich amserlen a'ch cynnydd heb hyfforddwr
Ar ddiwedd y cwrs, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur adborth i'n helpu i wella ein hyfforddiant.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu:
- beth yw dulliau gweithio ‘digidol’ ac ‘ystwyth’
- hanes dull gweithio Hyblyg, sut y daeth i fodolaeth, a pham
- y gwahaniaethau rhwng y dulliau gweithio ystwyth a rhaeadr
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- pryd i ddefnyddio Dulliau gweithio Ystwyth a Rhaeadr
- sut i asesu pa ddull sy'n addas i'ch gwasanaeth chi
- manteision dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ran gwasanaethau cyhoeddus
Yr hyn y bydd ei angen arna chi
Bydd angen dyfais arnoch sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a mynediad i'r platfform dysgu.