Trosolwg
Mae ymgorffori'r Gymraeg yn eich ymchwil yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae ymchwil gyda defnyddwyr Cymraeg yn eich helpu i:
- gynnwys defnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg
- deall eu profiadau yn well
- deall sut maen nhw’n rhyngweithio â gwasanaethau
- dylunio a darparu gwasanaethau sy'n bodloni eu hanghenion
- bodloni mesur y Gymraeg
Mae ystyried y Gymraeg o'r dechrau yn atal problemau yn y dyfodol pan fydd gwahaniaethau ieithyddol yn effeithio ar eich gwasanaeth, gan arbed amser ac ymdrech i chi.
Fel maes sy'n tyfu ac yn esblygu yng Nghymru, mae'n lle cyffrous i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd o weithio a chydweithio, a datblygu arfer da ac arweiniad gyda'n gilydd.
Dysgu am:
Ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil defnyddwyr Cymraeg
Dylai defnyddwyr Cymraeg allu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.
Ein nod yw meithrin gallu ym mhob sefydliad yng Nghymru i gynnal ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn anelu at ddyfodol lle mae pob tîm yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr dylunio sy’n fedrus yn y Gymraeg, ac yn ystyried yr iaith drwy gydol cylch bywyd eu prosiectau a'u gwasanaethau.
Mae pob aelod o'r tîm yn gyfrifol am eirioli dros y Gymraeg a'i defnyddwyr, nid dim ond aelodau'r tîm Cymraeg eu hiaith.
Gwyddom nad yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd i'r rhan fwyaf o dimau, ac mae rhywfaint o ymchwil bob amser yn well na dim ymchwil.
Ystyriwch sut y gallwch chi ymgorffori'r Gymraeg orau yn eich ymchwil gymaint â phosibl. Dylech gynnwys amser ychwanegol yn eich cynlluniau cyflawni, a sicrhau bod gennych y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Deall defnyddwyr Cymraeg
Mae iaith yn anneuaidd, yn gymhleth ac yn gyd-destunol - ac nid oes unrhyw ddefnyddiwr Cymraeg safonol.
Mae cymhwysedd ieithyddol yn aneglur ac yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys hyder.
Rydym yn defnyddio ‘defnyddiwr iaith’ yn lle ‘siaradwyr iaith’ oherwydd ei fod yn cynnwys holl ddefnyddwyr yr iaith yng nghyd-destun cynhyrchion a gwasanaethau, waeth beth fo'u cymhwysedd.
Gall defnyddiwr Cymraeg siarad Cymraeg rhugl, ond:
- mae'n well ganddynt ddefnyddio gwasanaethau yn Saesneg
- ddim yn deall gwasanaethau wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg
- maen nhw'n anabl neu'n defnyddio technoleg gynorthwyol
- maen nhw'n defnyddio gwasanaethau'n ddwyieithog, gan newid ieithoedd drwy gydol eu taith
Bydd rhai defnddwyr yn disgwyl lefel mwy soffistiedig o Gymraeg tra bydd eraill o bosib yn defnyddio cymysgedd o Gymraeg a Saesneg (Wenglish) yn eu bywydau pob dydd.
Efallai na fydd defnyddiwr Cymraeg yn siarad Cymraeg rhugl ond yn deall eraill yn siarad yr iaith.
Neu efallai nad ydynt yn siarad nac yn deall sgwrs yn Gymraeg, ond yn deall Cymraeg clir ysgrifenedig.
Efallai y byddai'n well ganddynt siarad Cymraeg gyda rhywun yn y llinell gymorth, ond derbyn negeseuon e-bost neu neges destun yn ddwyieithog a defnyddio eich gwefan yn Saesneg.