Pryd i ddefnyddio gwerthusiad hewristig

Gall hyn fod yn ddefnyddiol i ddysgu am faterion adnabyddus, er enghraifft:

  • materion cynnwys (defnydd o “cliciwch yma” a “darllen mwy”)
  • problemau hygyrchedd (megis gwirio am gyferbyniad lliw) gan ddefnyddio teclyn sy’n amlygu problemau yn awtomatig ar gyfer dyfeisiau neu borwyr

Ni ddylech ddefnyddio’r math hwn o brofi os nad oes gennych chi’r arbenigwyr cywir i arwain a chwblhau’r profi

Byddwch yn ymwybodol nad yw’r profi hwn byth cystal â phrofi gyda phobl go iawn.

Dim ond ychydig o adborth a gewch chi ar y rhyngwyneb a’r cynnwys wrth brofi blwch gwirio gan ddefnyddio dull hewristig. Ni fydd yn rhoi cipolwg i chi ar brofiad cyffredinol y defnyddiwr.

Dysgu mwy am werthusiadau hewristig