Dylai'r bobl y mae technolegau digidol ar gyfer y cyhoedd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol - sef dinasyddion Cymru - ymwneud â phob cam o'u dylunio

17 Awst 2022

Mae offer digidol yn aml yn cael eu defnyddio heb feddwl sut y byddant yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill © Pexels

Mae technoleg ddigidol yn cynnig potensial enfawr i wella mynediad at wasanaethau, ac eto cysylltu â meddygfeydd a chael apwyntiad yw'r her fwyaf i ddinasyddion o hyd. Ar gyfer practisau meddygon teulu, rheoli’r galw cynyddol yw'r broblem fwyaf - er gwaethaf offer digidol newydd a allai wneud mynediad i gleifion yn haws a helpu i leihau'r pwysau ar bractisau - er gwaethaf offer digidol newydd a allai hwyluso mynediad ar gyfer cleifion a helpu i leihau'r pwysau ar feddygfeydd.  

Mae effaith y pandemig, a'r ffaith bod pobl yn byw yn hirach - a hynny'n aml gydag anghenion iechyd cymhleth - ynghyd â phrinder Meddygon Teulu, yn mynd rhan o'r ffordd tuag at esbonio'r heriau sy'n gysylltiedig â mynediad a rheoli galw.  

Yr hyn a ganfuon ni

Ceisiodd prosiect darganfod 12 wythnos CDPS, a ddaeth i ben ar 1 Ebrill 2022, ddeall yr heriau hyn yn well o safbwynt dinasyddion a meddygfeydd.

Rhannodd postiad blog diwethaf y tîm ganfyddiadau cynnar ein gwaith ymchwil gyda meddygfeydd a dinasyddion. Ers hynny, ar ôl gwneud mwy o waith ymchwil, rydyn ni wedi dod i rai casgliadau ynglŷn â mynediad at feddygfeydd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar offer digidol. 

Dyma ein 4 prif ganfyddiad:

Mae ehangu mynediad at gofnodion iechyd ar-lein i ddinasyddion yn cynnig buddion a heriau

Dywedodd meddygfa wrthym fod rhoi mynediad o'r fath i ddinasyddion:

“Yn annog pobl i gymryd cyfrifoldeb - maen nhw'n ymwybodol o beth yw'r canlyniadau”

2. Cael mynediad at wasanaethau Meddyg Teulu yw'r brif her i ddinasyddion o hyd

Dywedodd dinasyddion wrthym eu bod yn cael trafferth cysylltu â meddygfeydd ar linellau ffôn prysur, gan ddibynnu ar yr hyn yr oedd rhai'n ei alw'n "lwc" neu ddyfalbarhad. Adroddwyd am orfod ailddeialu i ymuno â chiwiau galwadau a chiwio am 20-50 munud bob tro yr oedden nhw'n galw. Roedd rhai yn credu ei bod yn haws ymweld â'r feddygfa'n bersonol.

3. Rheoli'r galw yw'r brif her i feddygfeydd

Mae meddygfeydd yn rheoli'r galw o alwadau a sianeli eraill mewn ffyrdd amrywiol. Mae gan bob dull ei broblemau - gan gymryd negeseuon wedi'u recordio fel enghraifft:

  • 'Galwch ben bore' am apwyntiadau - mae hyn yn creu tagfa a rhwystredigaeth i ddinasyddion
  • 'Galwch rhwng X ac Y o'r gloch am apwyntiadau' - nid yw hyn yn datrys y dagfa, dim ond ei symud i adeg arall
  • 'Galwch am X o'r gloch i gael canlyniadau profion ac Y o'r gloch ar gyfer presgripsiynau' - mae meddygfeydd yn gwneud hyn i wasgaru galwadau ar hyd y dydd, ond mae'n gallu bod yn anodd i bobl gofio pryd i alw, gan arwain at alwadau drwy gydol y dydd, sut bynnag

4. Nid yw offer digidol wedi bod yn gyson lwyddiannus

Mae ymyriadau digidol wedi cael eu defnyddio'n helaeth mewn sectorau eraill i liniaru heriau mynediad. Fodd bynnag, nid ydynt wedi bod yn gyson lwyddiannus mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Fe ganfuon ni sawl rheswm dros hyn.

Achoswyd rhai ohonynt gan y pandemig. Ond, yn gyffredinol, mae offer digidol wedi cael eu caffael a'u defnyddio'n rhy aml heb ddigon o ddealltwriaeth ac ystyriaeth o:

  • anghenion manwl y dinasyddion neu'r meddygfeydd a fydd yn eu defnyddio a'u cynnal  
  • sut byddant yn gweithio gyda gweddill y gwasanaethau sy'n wynebu'r cyhoedd y mae meddygfeydd yn ei gynnig i ddinasyddion

Mae hyn wedi arwain at ddryswch a rhwystredigaeth i rai dinasyddion a chynnydd canfyddedig yn y galw i rai meddygfeydd. Mae meddygfeydd wedi ymateb trwy ddiffodd neu gyfyngu ar fynediad at wahanol fathau o ymarferoldeb digidol.

Y brif her i ddinasyddion yw cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu, tra rheoli’r galw yw’r brif her i bractisau © Unsplash

Beth rydyn ni wedi'i wneud ers hynny 

Mae'r tîm darganfod wedi cynhyrchu adroddiad manwl sy'n disgrifio:

  • beth rydyn ni wedi'i ddysgu o'n gwaith ymchwil 
  • y dystiolaeth sy'n sail iddo 
  • ein casgliadau, gan gynnwys argymhellion ar gyfer mwy o waith ymchwil â ffocws i ddilyn 

Yr hyn sydd wrth wraidd ein hargymhellion yw'r angen i gynnwys pobl y mae polisïau neu offer yn effeithio arnynt yn uniongyrchol yn y broses o ddylunio, dewis a phrofi technolegau digidol ar gyfer y cyhoedd. 

Cyflwynodd y tîm ein canfyddiadau i Feddygon Teulu ac eraill sydd â diddordeb mewn gwasanaethau Meddyg Teulu mewn sesiwn dangos a dweud (diweddariad ar y prosiect) ar ddiwedd mis Mawrth eleni. Yna, fe gyflwynon ni adroddiad manwl i Wasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd (DSPP), Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf? 

Mae DSPP bellach yn ystyried canfyddiadau ein gwaith ymchwil ar gyfer datblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol gyda meddygfeydd.  

Darllenwch adroddiad llawn y prosiect braenaru gofal sylfaenol. 

Gwyliwch: Y Dirprwy Weinidog Lee Waters yn disgrifio cyflawniadau CDPS yn ystod ein blwyddyn gyntaf

Dilynwch CDPS ar Twitter @cdps_cymru ac ar LinkedIn