Mae technoleg hefyd yn annog mwy o fenywod ifanc a dynion canol oed i drefnu apwyntiadau - ond mae prinder Meddygon Teulu

18 Mawrth 2022

Mae mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau meddyg teulu o bell oherwydd COVID-19 © Anna Shvets/Pexels

Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal prosiect darganfod, a gomisiynwyd gan Wasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd, i ddysgu am brofiad pobl o gael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru.  

Pam rydyn ni'n gwneud y gwaith ymchwil hwn  

Roedd y pandemig COVID wedi cyflymu'n sylweddol newidiadau i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu, yn enwedig ar-lein. O'r herwydd, mae'n adeg dda i ganfod sut mae'r newidiadau hyn wedi effeithio ar bobl sy'n defnyddio a darparu'r gwasanaethau hynny. 

Bydd canfyddiadau'r prosiect darganfod yn helpu ffurfio datblygiad gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd mewn practisiau Meddygon Teulu yng Nghymru ac amlygu ffyrdd o wella mynediad. 

Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma 

Mae'r tîm wedi: 

  • cyfweld â phractisiau Meddygon Teulu o bob maint, mewn lleoliadau trefol a gwledig, ar draws pob bwrdd iechyd
  • cyfweld â 23 o Feddygon Teulu a'u cydweithwyr yn y practis, fel derbynyddion
  • cyfweld â 12 o bobl, â chyflyrau iechyd presennol a hebddynt, sydd wedi defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu yn ddiweddar 
  • amlygu themâu sy'n dod i'r amlwg, gyda thystiolaeth ategol

Fe gyfwelon ni â samplau bach o gleifion a chlinigwyr, a ddewiswyd yn ofalus ar gyfer cymysgedd o nodweddion.

Yr hyn rydyn ni'n ei ofyn i bobl 

Rydyn ni'n gofyn pethau fel hyn i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu yn ddiweddar: 

  • sut maen nhw'n cysylltu â'u practis Meddygon Teulu i wneud pethau fel trefnu apwyntiad, gofyn am bresgripsiwn rheolaidd, cael canlyniadau prawf gwaed
  • sut roeddent wedi 'cyfarfod' â'u Meddyg Teulu - wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo
  • beth yw eu barn am gael mynediad at eu cofnodion meddygol eu hunain ar-lein 

Rydyn ni hefyd yn siarad â staff practisiau Meddygon Teulu i gael eu barn ynglŷn â sut mae pobl yn cael at eu gwasanaethau; beth sy'n gweithio'n dda a beth y mae angen iddo wella.  

Rydym yn siarad â staff practisau meddygon teulu a defnyddwyr gwasanaeth i ddarganfod beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wella © Tima Miroshnichenko/Pexels

Yr hyn rydyn ni'n ei ddarganfod 

Mae gennym ni fwy o gyfweliadau i'w cwblhau, ond mae themâu eisoes yn dod i'r amlwg.

Rydyn ni wedi dysgu:

  • wrth ymateb i'r pandemig, mae llawer o bractisiau Meddygon Teulu yn cynnig apwyntiad ffôn yn gyntaf bellach - ac mae hyn yn fuddiol oherwydd eu bod yn gallu cynnig mwy o apwyntiadau ffôn nag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb
  • mae'n well gan rai pobl ymgynghoriadau ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb, yn ôl practisiau, gan eu bod yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt; does dim rhaid iddynt deithio i'w meddygfeydd
  • hoffai llawer o gleifion gael dewis o ran sut maen nhw'n cyfathrebu â'u meddygfa - wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo, neu hyd yn oed drwy e-bost
  • mae heriau'n gysylltiedig â darparu mynediad ar-lein at feddygfeydd, ond hefyd buddion; mae grwpiau newydd o bobl, yn bennaf menywod iau a dynion canol oed, nad ydynt wedi gweld eu Meddyg Teulu o'r blaen, yn gofyn am apwyntiadau
  • mae'r galw am wasanaethau Meddyg Teulu yn cynyddu, ond mae'n anodd hurio a chadw Meddygon Teulu

Beth nesaf?

Yn ystod cam nesaf y prosiect, byddwn yn:

  • gorffen y cyfweliadau sy'n weddill
  • dadansoddi'r data ymchwil terfynol

Anfonwch neges e-bost at Hannah Pike, rheolwr cyflawni'r Cynllun Braenaru Gofal Sylfaenol, gyda chwestiynau am y prosiect hwn. 

Dilynwch ni ar Twitter (@CDPS_cymru) a LinkedIn i gael mwy o ddiweddariadau