Crynodeb o'r prosiect
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gall datrysiadau digidol wella cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y system gynllunio yng Nghymru.
I fynd i'r afael â hyn, mae'r tîm wedi strwythuro'r prosiect yn ddau gam:
- cyn ddarganfyddiad
- darganfyddiad
Yn ystod y cyfnod cyn darganfod, gwnaethom gynnal ymchwil bwrdd gwaith i ddeall y system gynllunio bresennol. Fe wnaethom nodi a mapio rhanddeiliaid hanfodol ar draws y system gynllunio.
Gan symud i'r cam darganfod, byddwn yn canolbwyntio ar y broses o wneud cais cynllunio.
Yr amcan yw ymchwilio a deall yr heriau a'r rhwystrau o fewn y broses ymgeisio.
Bydd y canfyddiadau hyn yn ein helpu i lunio argymhellion i fynd i'r afael â materion a gwella effeithlonrwydd prif feysydd y system gynllunio.
Nodau'r prosiect
Ein nod yw gwneud y system gynllunio yng Nghymru yn well ac yn fwy cynaliadwy gan ddefnyddio offer digidol.
Er enghraifft:
- darganfod sut mae'r broses yn gweithio
- cynnwys y bobl cywir
- canolbwyntio ar feysydd penodol i wella
Ein nod yw awgrymu gwelliannau ar gyfer proses gynllunio llyfnach a mwy effeithiol.
Yr heriau
Mae cynllunio yng Nghymru yn gymhleth. Ar ôl siarad â rhanddeiliaid allweddol, gwelsom amrywiaeth o faterion ar draws y system gynllunio:
- diffyg adnoddau – anhawster recriwtio a chadw arbenigwyr
- systemau TG aneffeithlon
- systemau anghyson ar draws gwahanol awdurdodau cynllunio lleol
- gwybodaeth sy'n anodd ei deall i'r defnyddiwr – polisïau cymhleth
- ansawdd gwael ceisiadau cynllunio
- heriau rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd
- diffyg mecanweithiau adborth
- diffyg ymddiriedaeth y cyhoedd
- ffioedd ddim yn cynnwys y cais
Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn hanfodol er mwyn gwella effeithiolrwydd a hygyrchedd y system gynllunio yng Nghymru.
Partneriaid
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad, cydweithio a chyfarwyddyd ar y meysydd i ganolbwyntio arnynt o fewn y system gynllunio.
Byddant yn sicrhau bod ein hymdrechion yn cyd-fynd â'u nodau wrth wella'r system gynllunio yng Nghymru.
Awdurdodau cynllunio lleol
Mae'r awdurdodau cynllunio lleol yn rhoi cipolwg ar brosesau, rheoliadau a heriau cynllunio lleol.
Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI)
Mae'r RTPI yn cyfrannu arbenigedd ar arferion cynllunio cynaliadwy a chyfeillgar i'r amgylchedd.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Mae CLlLC yn rhannu gwybodaeth am y diwydiant ac yn darparu llwyfan ar gyfer rhwydweithio.
Crynodeb o'r gwaith hyd yn hyn
Cyn-ddarganfod
Yn y cyfnod cyn ddarganfod, gwnaethom gynnal ymchwil bwrdd gwaith i ddeall y system gynllunio bresennol. Gwnaethom edrych ar wahanol wefannau cynllunio cynghorau lleol i ddeall sut maen nhw'n gweithio. Fe wnaethom hefyd nodi'r rhanddeiliaid allweddol wrth gynllunio.
Cafwyd cyfarfod ag arbenigwyr cynllunio i ddeall mwy. Aeth y tîm i'r Ysgol Aeaf Cynllunio Digidol yng Nghaerdydd i rwydweithio a chael gwybod am offer cynllunio digidol newydd i wella'r gwasanaeth.
Cafodd y tîm craidd gyfarfod gyda'r Rheolwr Polisi Cynllunio, Neil Hemmington, o Lywodraeth Cymru i benderfynu ar ein camau nesaf.
Nawr, rydym yn canolbwyntio ar wella'r broses ymgeisio cynllunio.
Darganfyddiad
Yn y cam darganfod, byddwn yn canolbwyntio ar y broses o wneud cais cynllunio.
Mae hyn yn cynnwys pwynt cyffwrdd cyntaf y defnyddiwr gyda'r awdurdod cynllunio lleol i wneud cais am ganiatâd cynllunio, hyd at y pwynt o gael penderfyniad.
Bydd y tîm hefyd yn profi porth Ceisiadau Cynllunio Cymru ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd.
Yn ogystal, byddwn yn mapio'r camau sy'n gysylltiedig â'r broses gynllunio ac yn deall sut mae pethau'n gweithio ar hyn o bryd.
Byddwn yn cynnwys mwy o randdeiliaid, fel swyddogion cynllunio, asiantau, a pherchnogion tai i ddeall eu pwyntiau poen yn ystod y broses gynllunio.
Byddwn yn gynhwysol drwy ymgysylltu â defnyddwyr o wahanol gefndiroedd, galluoedd, safbwyntiau a dewisiadau. Er enghraifft, pobl â nam ar eu golwg, anableddau dysgu, y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, defnyddwyr oedrannus a siaradwyr Cymraeg.
Mae'r dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod ein hastudiaeth yn cwmpasu safbwyntiau pawb.