How the design and delivery of public services in Wales can help promote the Welsh language and meet user needs.

This is a challenging area for those building bilingual services in Wales.

Rhwystrau rhag defnyddio’r Gymraeg

Mae ymchwil a phrofiad hyd yma yn awgrymu pedwar rhwystr allweddol rhag mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus:

  • pobl
  • offer
  • arweiniad
  • cyllideb

A oes gennym ni’r bobl iawn, sydd â’r sgiliau iawn, yn y lle iawn? Mae’r angen yno; y cwestiwn yw beth sy’n ei atal rhag digwydd?

Canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr

Mae angen i ni feddwl am ddylunio gwasanaethau gyda golwg ar y Gymraeg o’r dechrau. 

Mae hynny’n cynnwys meddwl am sut, pryd a pham mae pobl eisiau defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg a sut gellir dylunio gwasanaethau i ganiatáu iddynt wneud hynny. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys profi gyda siaradwyr Cymraeg wrth i wasanaethau gael eu dylunio a’u datblygu. Er enghraifft, mae’r cofnod blog hwn ar brototeipioyn sôn am brofi prototeipiau gyda siaradwyr Cymraeg yn rhan o’n gwaith

Newid ymddygiad

Dylai egwyddorion newid ymddygiad (gwneud pethau’n Rhwydd, yn Ddeniadol, yn Gymdeithasol ac yn Amserol) fod yr un mor berthnasol i’n ffordd o feddwl am sut rydym yn dylunio gwasanaethau a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. 

Gallwch ddysgu mwy am yr egwyddorion yn y canllawiau hyn gan Wasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth

Magu hyder

Mae hyder siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg yn bwysig. Felly hefyd hyder y rhai sy’n datblygu gwasanaethau cyhoeddus i feddwl yn wahanol am sut maen nhw’n darparu’r gwasanaethau hynny. 

Sut gallwn gynyddu’r hyder hwnnw a ‘normaleiddio’ defnydd o’r Gymraeg?

Gweminar

Cafodd y canllaw hwn ei seilio ar weminar rhannu gwybodaeth.

Yn y sesiwn, fe glywson ni gan

  • Alun Shurmer o Ddŵr Cymru
  • Jeremy Evas o Lywodraeth Cymru
  • Heledd Evans o Cyfoeth Naturiol Cymru

Am y tro cyntaf i ni yn y Ganolfan, fe gynhalion ni’r weminar gan ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd. A bod yn onest, doedden ni ddim yn siŵr sut byddai’n gweithio, ond roedd y dechnoleg yn eithaf syml i’w sefydlu mewn gwirionedd (ar ôl i ni ddeall beth oedd arnom ei angen!) ac yn rhwydd i bobl ei defnyddio. 

O ganlyniad, gallai pawb a fynychodd, gan gynnwys y siaradwyr, ddewis ymgysylltu yn Gymraeg neu Saesneg.

Wrth i ni ddysgu, rydym wedi canfod bod Zoom yn recordio’r iaith wreiddiol yn unig, nid y cyfieithiad, felly er ein bod yn rhannu’r recordiad o’r sesiwn, sylwch fod y mwyafrif ohoni wedi’i chynnal yn Gymraeg, felly gallai’r recordiad fod yn gyfyngedig i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.