Egwyddorion dylunio gwasanaethau

Mae'n rhaid i ni ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd â'r bobl sy'n eu defnyddio.

Mae dylunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ein helpu i ddylunio'r peth cywir ar gyfer y cwsmer. Heb ddylunio gwasanaethau, does dim trawsnewidiad go iawn.

Blaenoriaethu'r defnyddiwr

Dylai anghenion defnyddwyr lywio dyluniad gwasanaeth, pwy bynnag yw'r defnyddwyr hynny. Mae angen rhoi mwy o bwys ar ddefnyddwyr na chyfyngiadau strwythurau busnes, silos neu dechnolegau sefydliadol.

Mae angen i ni wneud pethau sy'n cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl, a pheidio â disgwyl i bobl newid eu hymddygiad er mwyn defnyddio ein gwasanaethau.

Y cyd-destun Cymreig

Yng Nghymru mae gennym:

  • wasanaethau cyhoeddus sydd angen eu dylunio
  • pobl â'r sgiliau i'w dylunio
  • pobl sydd eisiau dysgu sgiliau dylunio gwasanaeth

Nid oes gennym:

  • ddigon o gyfleoedd i bobl fedrus
  • llwybrau i bobl fynd i'r proffesiwn

Dyma weminar lle trafodwyd egwyddorion dylunio gwasanaethau, cymunedau o ddiddordeb a chyflawni ymarferol yn cymryd rhan oedd:

  • Darius Pocha, sylfaenydd Create/Change
  • Jess Neely, Arweinydd Dylunio ac Ymchwil Gwasanaeth yn Perago
  • Ian Vaughan o Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot

Ystyriaethau ar gyfer dylunio gwasanaethau dwyieithog

Dylai cynnwys Cymraeg gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr gael ei ddrafftio ochr yn ochr â'r cynnwys Saesneg, nid dim ond ei gyfieithu.

Ond efallai na fydd hyn bob amser yn ymarferol. Felly beth, os unrhywbeth, y gellir ei wneud?

Mae yna lawer o gwestiynau y dylech eu hystyried, y tu hwnt i gyfieithu cynnwys yn unig.

  • Beth yw'r cyd-destun cenedlaethol neu leol?
  • Sut ydych chi'n ymchwilio ac yn profi gyda chynulleidfaoedd dwyieithog?
  • Oes gan ddefnyddwyr anghenion gwahanol mewn ieithoedd gwahanol?
  • Pryd mae cyfieithiad yn ddigon?

Mewn cyfarfod o'n cymuned ymarfer gwasanaethau dwyieithog Adeiladu, dangosodd Gwasanaeth Digidol Canada eu dull o weithredu.

Sut mae'r Canadian Digital Service yn dylunio gwasanaethau dwyieithog?

Deall rôl cyfieithydd

Bydd y mwyafrif o gyfieithwyr yn cyfieithu 3,000 – 5,000 gair y diwrnod. Rhai yn gweithio i’r sefydliad ond eraill yn gweithio i nifer o gleientiaid gwahanol bob dydd.

Os ydyn nhw yn cael darn o waith sy’n frith o jargon, efallai mai cyfieithiad llythrennol yw’r unig opsiwn ymarferol. 

Cymrwch ‘Community of Practice’ fel enghraifft. Galler ei gyfieithu fel ‘Cymuned o Ymarferwyr’. Ond mae ‘Cymuned Arfer’ hefyd wedi ei ddefnyddio.  

Ond beth am ei gyfieithu yn ôl i’r Saesneg – ‘Community of Habit’? Os ydych chi’n ystyried beth mae’r gymuned yn ceisio ei gyflawni, oni fyddai rhywbeth fel ‘Cymuned Drafod’ yn fwy addas, neu hyd yn oed, ‘Melin Drafod’? 

 

Defnyddio Cymraeg Clir

Does dim o'i le ar y cyfieithiad - mae'n gywir, ac os ydych chi'n gweithio yn y sector cyhoeddus, rydych chi'n debygol o'i ddarllen heb fawr o ymdrech.

Ond beth os wnewch chi ei roi drwy'r prawf 'ffrindiau a theulu'? A fyddai hyn yn enghraifft lle bydden nhw'n chwilio am y botwm toglo hwnnw, ac yn newid i'r Saesneg? 

Saesneg clir yn gymorth i gyfieithydd

Os oes rhaid i gyfieithwyr gysylltu â'u cleientiaid yn barhaus i ddeall ystyr brawddeg, bydd creu cyfieithiad clir yn dod yn gymhleth ac yn gostus.

Does dim rhyfedd pam fod cyfieithwyr yn aml yn dewis y cyfieithiad llythrennol.

Ystyriwch y ddwy frawddeg:

“…. This means following an iterative or incremental approach, adjusting as we go along always focusing on delivering solutions that meet the needs of the users of the service…” 

Wedi ei gyfieithu i: 

"Mae hyn yn golygu dilyn ymagwedd ailadroddol neu fesul cam, gan addasu wrth i ni fynd a chanolbwyntio bob amser ar gyflawni datrysiadau sy'n bodloni anghenion defnyddwyr y gwasanaeth."

Beth mae ‘iterative and incremental approach’ yn ei olygu go iawn? Ai: 

“This means testing and re-testing as we go along, making changes and always finding the answers that makes the journey easier for the user.” 

Byddai'n cyfieithu fel hyn:

"Mae hyn yn golygu profi ac ail-brofi wrth ddatblygu, gan wneud newidiadau a dod o hyd i atebion sy'n gwneud hi'n haws i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Byddai amryw yn dadlau nad yw’r ail fersiwn yn cynnwys yr iaith gorfforaethol neu swyddogol sydd ei hangen i adlewyrchu statws a’i bod yn or-syml.  

Fodd bynnag, prif bwrpas iaith ydy gwneud yn siŵr fod pobl yn gyfforddus yn ei defnyddio – ac os ydy’r Gymraeg (neu’r Saesneg) yn defnyddio iaith ddieithr, rydych wedi colli’r darllenwr cyn dechrau.