11 Ionawr 2022

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus (CDPS) yn gweithio mewn partneriaeth ar ddarn cyntaf CNC o ddylunio gwasanaeth Ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. 

Mae arweinydd cynnyrch CNC, Alex Harris, yn esbonio: 

Trwy ddilyn cyfarwyddyd y Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae strategaeth ddigidol newydd CNC yn canolbwyntio ar ddylunio a darparu gwasanaethau o amgylch anghenion y rhai sy’n eu defnyddio. 

Trwy gydweithio â CDPS, byddwn yn defnyddio ein gwasanaeth gwastraff peryglus fel ‘prosiect arddangosol’, ac rydym yn gobeithio dysgu llawer ohono. 

Gwasanaeth Gwastraff Peryglus 

Bu’r gwasanaeth hwn ar waith am nifer o flynyddoedd ac nid yw wedi cael ei adolygu o ran sut mae’n bodloni anghenion y bobl y mae’n rhaid iddynt ei ddefnyddio. 

Os nad oeddech yn gwybod eisoes, mae’n ofynnol i sefydliadau neu unigolion sy’n trin gwastraff peryglus yng Nghymru ryngweithio â ni: 

  • os ydynt yn cynhyrchu gwastraff peryglus 
  • os ydynt yn cludo gwastraff peryglus  
  • os ydynt yn derbyn gwastraff peryglus 

Mae angen llenwi ffurflen cofnodi llwyth i roi gwybod i CNC am y gwastraff a dderbyniwyd, a dynnwyd neu a waredwyd ar safle. Mae hyn yn un o ofynion gorfodol Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005, sy’n golygu bod cwmnïau’n torri’r gyfraith os na fyddant yn ei llenwi. 

Mae’r cofnod yn creu incwm sy’n rhoi refeniw i CNC i reoleiddio gweithgareddau gwastraff peryglus. 

Beth yw’r broblem? 

Yn ystod y cyfnod darganfod hwn, rydym yn canolbwyntio ar y canlynol: 

‘Mae ein defnyddwyr yn cael trafferth gwybod beth mae angen iddynt roi gwybod i ni amdano a sut i gyflawni’r tasgau sydd eu hangen i fodloni eu gofynion rheoleiddiol, sy’n arwain at fwy o faich ar staff CNC o ran cynnig cymorth. 

Mae angen i ni ddeall y daith i’n defnyddwyr o un pen i’r llall a nodi’r meysydd lle y gallwn ei gwneud yn haws o lawer.’ 

Ffyrdd o weithio 

Mae dechrau’r prosiect hwn â cham darganfod yn ffordd newydd o weithio i ni. Mae’n golygu nad ydym yn dechrau ag ateb ond, yn hytrach, yn treulio amser yn dod i ddeall anghenion y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth drwy gynnal ymchwil â defnyddwyr. 

Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn yn cael eu cynnwys o ddechrau’r broses. Byddant yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw ateb, p’un a oes elfen ddigidol neu beidio. 

Ar ddiwedd y cam darganfod, ein nod yw y bydd gennym ddealltwriaeth glir o anghenion y sefydliadau neu’r unigolion sy’n rhyngweithio â’r gwasanaeth hwn.   

Beth nesaf? 

Dechreuodd y prosiect hwn ar 22 Tachwedd a bydd yn para 12 wythnos. Rydym eisoes yn cynnal ymchwil â defnyddwyr allanol a mewnol y gwasanaeth gwastraff peryglus, a byddwn yn parhau i flogio ar hyd y cyfnod i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu. 

Post blog gan: Alex Harris, Arweinydd Cynnyrch