Datgelodd y cam darganfod broblemau'r diwydiant gwaredu gwastraff peryglus â gwasanaethau digidol: mae'r cam alffa'n ymwneud â rhoi cynnig ar ddatrysiadau, yn ôl y dylunydd cynnwys Sam Evans

16 Mawrth 2022

Roedd cynnwys yn rheswm mawr nad oedd gwefan CNC yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr © John Cameron/Unsplash

“Pam na allwch chi ddweud wrtha’ i beth mae angen i mi ei wybod, yn syml?” meddai defnyddiwr a oedd wedi syrffedu mewn sesiwn ymchwil.  

Nid oedd ar ei ben ei hun. Wrth i ni wrando ar bobl yn siarad am ddefnyddio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fe glywson ni’r neges hon yn aml.  

Mae llawer o resymau pam nad ydyn ni’n bodloni anghenion pobl. Ond fe ddaeth i’r amlwg o gam darganfod CDPS ar wastraff peryglus mai cynnwys yw’r brif thema. 

Mae hynny’n galonogol: fe allwn ni weld bod llawer o gyfleoedd i wella pethau i bobl y mae angen iddynt ddefnyddio ein gwasanaeth.  

Ac, fel dylunydd cynnwys yn y tîm darganfod, rwy’n gweld cyfle i feddwl yn wahanol am gynnwys. 

Yr hyn y mae pob defnyddiwr ei eisiau

Rydyn ni i gyd eisiau’r un peth ar-lein. P’un a ydyn ni’n siopa, yn archebu tocynnau, yn gwneud cais am rywbeth neu’n chwilio am ateb i gwestiwn, rydyn ni eisiau dod o hyd iddo’n rhwydd, ei ddeall yn gyflym, bod yn hyderus yn yr hyn rydyn ni wedi’i ganfod a gallu symud ymlaen.

Mae cynnwys sydd wedi cael ei ymchwilio, ei gynllunio, ei ddylunio a’i ystyried yn cyflawni’r nodau hyn oherwydd, fel dylunwyr cynnwys, rydyn ni’n:

  • deall pwy yw ein defnyddwyr a’r hyn y mae arnyn nhw ei angen
  • sicrhau bod cynnwys yn bodloni anghenion defnyddwyr
  • sicrhau ein bod yn defnyddio geiriau y mae defnyddwyr yn eu deall ac yn gyfarwydd â nhw
  • creu cynnwys sy’n gryno ac yn gallu cael ei sganio
  • dylunio a strwythuro cynnwys, yn ogystal â’i ysgrifennu a’i olygu
  • cyhoeddi cynnwys yn y man lle mae defnyddwyr yn disgwyl ei weld

Yr hyn nad yw dylunwyr cynnwys ei eisiau yw cynnwys sy’n dod atom yn sefydlog ac wedi’i gytuno – nid yw hynny’n iawn. Nid ein rôl ni yw golygu a chyhoeddi fel HTML. Mae angen i ni fod yn rhan o’r broses o’r cychwyn.

Darganfod: teithiau gwastraffus

Wrth ddarganfod, mae’r tîm wedi magu empathi â defnyddwyr gwasanaethau digidol CNC – gan ddeall mwy am eu hanghenion a’u cymhellion © Merch Hüsey/Unsplash

Cyn i ni ddechrau’r cam darganfod, roedd gennym ni dystiolaeth fod pobl yn cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth gwastraff peryglus. Roedd adborth ar y wefan, data galwadau a dadansoddeg yn dangos bod defnyddwyr yn cael trafferth dod o hyd i’n gwasanaethau, eu deall a’u defnyddio.

Rydyn ni wedi symud trwy’r cam darganfod, gan wneud gwaith ymchwil gyda defnyddwyr, mapio teithiau a dadansoddi. Rydyn ni bellach yn gwybod llawer mwy am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth: pwy ydyn nhw, eu cyd-destunau, eu hanghenion, eu cymhellion a’u hymddygiad.

Rydyn ni wedi herio ein tybiaethau ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n credu y dylai pobl ei wybod a’i ddeall. Rydyn ni wedi edrych ar bethau o onglau gwahanol. Rydyn ni wedi datblygu empathi ar hyd y ffordd.

Ac mae’r hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod yn cyd-fynd â rhai tybiaethau a fu gennym ers tro:

  1. Weithiau, rydyn ni’n defnyddio iaith CNC, nid iaith ein defnyddwyr. Yna, mae pobl yn galw’r hyb cwsmeriaid i gael gwybod beth rydyn ni’n ei olygu – mewn iaith syml.
  2. Gall busnesau mwy o faint gyflogi pobl i’w helpu i gael gwybod yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i weithredu’n gyfreithiol, ond efallai nad yw hyn yn wir am fusnesau llai. Fel y dywedodd un defnyddiwr, “Y rhai bach yw’r rhai y mae angen cymorth arnyn nhw… mae’n anodd iawn i rywun nad yw’n gyfarwydd â’r diwydiant i ddeall beth sy’n ofynnol.’’
  3. Gall ein gwybodaeth a’n harweiniad fod yn haniaethol, heb gysylltiad â gweithgareddau dydd i ddydd defnyddwyr.
  4. Nid yw gwybodaeth ac arweiniad bob amser yn berthnasol ac maen nhw’n amharu ar angen defnyddwyr i gwblhau tasg.
  5. Mae defnyddwyr yn meddwl am ganlyniad gwneud rhywbeth ar ein gwefan, yn hytrach na’r broses. Byddwn ni’n dweud “cofrestrwch fel cynhyrchydd gwastraff peryglus”, ond bydd ein defnyddwyr yn meddwl ‘mae angen i fi gael cod safle’.
  6. Mae tudalennau neu ddogfennau annibynnol yn cael eu cyhoeddi ar wahân i gynnwys arall perthnasol. Mae hynny’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr ddod o hyd i bopeth y mae arnyn nhw ei angen.
  7. Nid yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau ar ein gwefan gan nad ydyn nhw ble maen nhw’n disgwyl iddynt fod neu nid ydynt yn ymddangos mewn canlyniadau chwilio.

Alffa: rhoi cynnig ar ddatrysiadau

Yn ystod y cam alffa, byddwn yn rhoi cynnig ar wahanol ddatrysiadau i’r problemau rydyn ni wedi dysgu amdanyn nhw yn y cam darganfod.

Un o’r opsiynau yw prototeip o daith defnyddiwr dywysedig ar gyfer grŵp o ddefnyddwyr y mae gennym ni rywfaint o hyder ynddynt – fel y busnes malu ceir y siaradon ni amdano yn ein sesiwn dangos a dweud ddiweddar.

Byddwn yn profi’r hyn rydyn ni wedi’i wneud gyda defnyddwyr – y bydd llawer ohonynt ymhlith y rhai a gyfwelwyd yn ystod y cam darganfod. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu mwy am eu hymddygiad a gwerthuso ein dulliau.

Erbyn diwedd y cam alffa, gallwn benderfynu pa rai o’r syniadau rydyn ni wedi’u profi sy’n werth eu symud ymlaen i’r cam beta.

Rhowch sylwadau i ni isod ar sut oedd y cam darganfod wedi amlygu problemau gyda chynnwys – neu sut oedd y cam alffa wedi helpu i ffurfio datrysiadau