Sioe dangos a dweud CDPS: Canfyddiadau cynnar yn deall sut mae awtomeiddio a DA yn cael eu defnyddio ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddeall aeddfedrwydd a pharodrwydd awtomeiddio a DA ar draws sector cyhoeddus Cymru. 

Rydym yn dod i ddiwedd darganfyddiad byr 6 wythnos ac yn cynnal sioe agored ac yn adrodd ar ein canfyddiadau a'n hargymhellion. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a rhoi adborth ar yr hyn rydym yn ei drafod.