Yn ddiweddar, ysgrifennodd Robert Mills am gynnal cynllun peilot ysgrifennu triawd i helpu sefydliadau i gydweithio'n well ar gynnwys dwyieithog. Yn y cofnod blog hwnnw, dywedodd Rob y bydden ni’n rhannu canfyddiadau’r rhai a gymerodd ran yn y cynllun peilot. Byddaf yn rhannu rhai o'r rhain yn y cofnod blog hwn. 

Hefyd, fe wnaethon ni gyd-gynnal sioe deithiol 'Yr Iaith ar Daith' gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Pwrpas y sioe deithiol oedd dod â degau o sefydliadau ynghyd i rannu eu profiadau a’u heriau wrth greu a chyhoeddi cynnwys dwyieithog. Roedd ffocws hefyd ar sut mae angen i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau dwyieithog hefyd. 

Ein man cychwyn 

Cyn dechrau’r gwaith hwn, roedd ganddon ni ychydig o brofiadau ac ymchwil i'n cyfeirio. Mae’n debygol y bu ganddon ni ambell ragdybiaeth hefyd. 

Roedden ni’n gwybod nad yw gwasanaethau yng Nghymru bob amser yn diwallu anghenion defnyddwyr y Gymraeg, gan ei gwneud hi'n heriol iddyn nhw gael mynediad at y gwasanaethau hyn a'u defnyddio.  

Mae'n bwysig dweud nad dim ond ystyried gwaith crëwyr cynnwys Cymraeg neu gyfieithwyr oedd y gwaith hwn. Yn gyffredinol, does dim prinder sgiliau, gwybodaeth nac arbenigedd Cymraeg ymhlith cyfieithwyr neu gyfathrebwyr proffesiynol.  

Dwi wedi gweithio mewn nifer o rolau cynnwys lle medrais i ddefnyddio - ac roeddwn eisiau defnyddio - fy sgiliau Cymraeg i ddylunio a chyhoeddi cynnwys. Dros y blynyddoedd, dwi hefyd wedi gweithio'n agos gyda chyfieithwyr i wella ffrydiau gwaith ar gyfer cyhoeddi cynnwys dwyieithog – a hynny weithiau fel rhan o fodelau cyhoeddi datganoledig mwy cymhleth. 

Un peth dwi wedi’i ddysgu yw bod dylunio a chyhoeddi cynnwys llwyddiannus yn fwy na mater o ysgrifennu'n dda neu gyfieithu o un iaith i'r llall. Byddwn i'n mentro dweud bod llwyddo'n y maes hwn yn gyfrifoldeb ar y r rhai nad ydyn nhw'n medru'r Gymraeg gymaint â’r rhai sy’n ei medru. Ond yn rhy aml, mae sefydliadau'n dirprwyo’r ymdrechion hyn i 'rai sy'n gallu cyhoeddi' neu 'y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg'. 

Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn o sefydliadau yr ydyn ni wedi gweithio gyda nhw. Roedd hi’n amlwg felly fod llawer mwy ganddon ni ei ddysgu gan sefydliadau’r sector cyhoeddus y rhoddodd Comisiynydd y Gymraeg gymorth inni eu cyrraedd. 

Heriau creu cynnwys dwyieithog 

Dyma be’ glywson ni gan bobl o ddegau o sefydliadau yn ystod y sioe deithiol a’r sesiynau peilor ysgrifennu triawd.. 

Capasiti isel a llwyth gwaith mawr 

Roedd yr heriau mwyaf cyffredin yn ymwneud â chapasiti. Mae cyfieithwyr a chyhoeddwyr yn aml yn gweithio i derfynau amser tynn iawn, sy'n golygu nad yw'r amser i gydweithio (megis wrth ysgrifennu triawd) ac ystyried anghenion y defnyddiwr ar gael.  

Siaradai pobl o dimau cyfathrebu a thimau cyfieithu hefyd am faint o gynnwys sydd angen ei gyfieithu a'i gyhoeddi o ddydd i ddydd. Mae hyn yn ei dro yn golygu nad oes amser yn aml i ystyried ffyrdd eraill o wneud pethau. 

Diffyg gallu ac ymwybyddiaeth 

Pan wnaethon ni siarad am ysgrifennu triawd, dywedodd llawer o sefydliadau wrthon ni y bydden nhw hoffi gweld mwy o enghreifftiau ac astudiaethau achos o sefydliadau sydd wedi rhoi cynnig arni'n llwyddiannus. Roedden nhw hefyd yn gwerthfawrogi'r arweiniad un-i-un a'r hyfforddiant a gynigiwyd gan y cynllun peiloti. Ochr yn ochr â hyn, byddai opsiynau hyfforddi yn helpu sefydliadau i ddysgu ac ehangu’r defnydd o’r dechneg hon. 

Amrywiaeth o rolau a heriau cydweithio 

Roedd llawer o bobl yn nigwyddiadau’r sioe deithiol yn gweithio mewn rolau marchnata a chyfathrebu. Mae'n sir fod hyn yn cynrychioli'r rôl gyffredin sydd gan gynnwys mewn sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.  

Clywson ni’n aml sut mae newid prosesau cynhyrchu cynnwys yn aml yn golygu gweithio ar draws timau fel technoleg gwybodaeth a darparwyr gwasanaethau. Mae'r cydweithio hwn yn heriol mewn amgylchiadau lle mae pwysau i gyhoeddi heb fawr o amser a chapasiti. 

Mae sefydliadau angen amser i addasu 

Mae'n amlwg hefyd bod amrywiaeth eang o fodelau cyhoeddi ac aeddfedrwydd o fewn sefydliadau. Mae hyn yn golygu nad oes ateb cyflym, sy'n golygu bod angen i sefydliadau fuddsoddi amser i addasu ffyrdd newydd o weithio i'w hamgylchiadau a'u cyd-destunau eu hunain. 

Dewi cynnwys addas i gydweithio 

Mae'n ymddangos yn amlwg i ddweud nad yw ysgrifennu triawd (neu fathau eraill o gydweithio) yn addas ar gyfer creu pob math o gynnwys. Mae hyn eto yn golygu bod angen i lifoedd gwaith dylunio cynnwys a chyfieithu fod yn rhai sydd wedi’i deilwra ac yn addas i'w cyd-destun.  

Yn ddiddorol, dywedodd Prifysgol Abertawe wrthyn ni sut y gallen nhw weld ysgrifennu triawd fel dull ar gyfer gwella safoni wrth ffurfio prosiect. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cyd-ddylunio terminoleg, geirfa, templedi a dylunio cynnwys y gellir ei ailddefnyddio o fewn ymgyrchoedd ehangach.  

Gyda’r holl bwysau sydd ar sefydliadau, mae angen blaenoriaethu a chanolbwyntio ar gynnwys sy'n effeithio'n uniongyrchol ar brofiadau defnyddwyr.

Be wnawn ni nesa’ 

Mae'r pethau rydyn ni wedi'u clywed gan sefydliadau ar ddechrau'r flwyddyn hon wedi rhoi llawer o waith meddwl i ni yn CDPS. Beth sydd nesaf? 

Rydyn ni’n dal i gnoi cil ar rai o'r syniadau er mwyn deall y ffordd orau y gallwn ni weithio gydag eraill. Ond rydyn ni yn gwybod ein bod ni eisiau: 

  • gwneud mwy i gefnogi sefydliadau i roi cynnig ar ddulliau sy'n gweithio i'w cyd-destunau - mae gwneud rhywbeth bob amser yn well na dim 
  • darparu pecynnau gwaith a thempledi i sefydliadau roi cynnig ar bethau drostyn nhw’u eu hunain 
  • rhannu syniadau mwy penodol am flaenoriaethu cynnwys ar gyfer cydweithio 
  • dylanwadu ar sut mae cynnwys yn cael ei weld mewn sefydliadau: nid fel rhywbeth ffwrdd â hi ond fel ased i ddiwallu anghenion busnes a defnyddwyr 

Byddwn ni hefyd yn parhau i wrando ar sefydliadau am eu heriau a'u llwyddiannau. Yn bersonol, dwi wedi dysgu llawer yn ystod y misoedd diwethaf ac wedi meithrin perthynas â phobl newydd o wahanol sefydliadau.  

Felly, cysylltwch â mi ar osian.jones@digitalpublicservices.llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau, heriau neu arfer gorau i'w rhannu.