Mabolgampau, derbyn prydau ysgol am ddim, fflagio gofal cymdeithasol - Mae CDPS yn helpu caffael y system sy’n hanfodol wrth drin data rheoli ysgolion, sy’n canolbwyntio yn benodol ar anghenion y defnyddiwr

18 Awst 2022

Mae systemau gwybodaeth reoli yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelu iechyd a lles plant mewn ysgolion © Unsplash

Mae systemau rheoli gwybodaeth (MI) yn hanfodol mewn ysgolion. Mae ysgolion yn mewnbynnu data ar bresenoldeb yn cynnwys presenoldeb disgyblion, eu canlyniadau arholiad, ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a llawer mwy.  

Mae rhai systemau MI yn cael eu defnyddio i anfon gwybodaeth i rieni neu wracheidwaid, er enghraifft, am dripiau ysgol, mabolgampau, neu i’w hatgoffa am ddiwrnodau hyfforddiant i athrawon. Mewn rhai achosion, mae’r systemau yn cael eu defnyddio i recordio a fflagio gwybodaeth sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol.

Rhaid i ysgolion hefyd rannu data o'r fath gyda'u hawdurdod lleol, gweinidogion ac Estyn (arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru), gan ddefnyddio system MI.  

Yn y bôn, mae systemau MI yn chwarae rhan enfawr mewn rheoli ysgolion a diogelu iechyd a lles plant – felly mae prynu’r system iawn yn allweddol bwysig. 

Yr angen am newid

Mae’r contract gyda’r cyflenwr systemau MI ysgolion presennol yng Nghymru ar fin dod i ben. Ynghyd â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mae CDPS wedi dechrau gwaith ar ddarganfod ateb newydd er mwy cwrdd ag anghenion athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol.  

Yn seiliedig ar eu gofynion, rydym yn ysgrifennu set o anghenion gyda CLlLC i gaffael system MI newydd. Y gobaith yw, trwy rannu pam a sut rydym yn mynd ati i gaffael y system yma, y byddwn yn annog sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i roi defnyddwyr yn gyntaf wrth nwyddau a gwasanaethau eu hunain.

Trwy ystyried gofynion y defnyddiwr o’r cychwyn cyntaf, mae’n helpu creu datrysiad sy’n fwy tebygol o fod yn addas i bwrpas (a bod yn addasadwy), am flynyddoedd i ddod. Mae defnyddio cynhyrchion digidol sy'n para’n arbed arian.

Allbwn yn erbyn mewnbwn

Yn draddodiadol, wrth brynu meddalwedd, mae’r sefydliad prynu yn dweud wrth y darparwyr (y bobl sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau) y datrysiad neu’r ‘allbwn’ maen nhw’n meddwl sydd ei angen. Fodd bynnag, ffordd well o wneud hyn yw datgan yr ‘allbwn’  maen nhw ei eisiau- mewn geiriau eraill, y problemau i’w datrys.  

Mae ysgrifennu anghenion sy'n rhoi cyd-destun y defnyddiwr i ddarparwyr yn ei gwneud hi'n fwy tebygol o gyrraedd datrysiad addas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn annog cystadleuaeth ac arloesedd wrth chwilio am yr ateb gorau.

Unwaith dros Gymru

Rydym wedi dechrau cyfnod darganfod 10 wythnos - cyfnod darganfyddiad Deall ‘Ystwyth’ pan rydych yn ceisio gloywi problem. Rydym yn gweithio tuag at ddull 'Once for Wales', byddai’n caniatáu i awdurdodau lleol ac ysgolion rannu eu gofynion am system rheolaeth newydd - un adnodd i bawb.  

Er enghraifft, byddai cofnodi canlyniadau ac adrodd i Estyn yn cael ei safoni ar draws y wlad. Yn amlwg, bydd rhai gwahaniaethau mewn gofynion sefydliadau unigol, ond byddai set o ddata craidd sy’n gyson a chlir yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio. 

Bydd y cyfnod darganfod yn edrych ar anghenion defnyddwyr ar gyfer: 

  • sefydlu set ddata craidd 
  • gallu ysgolion unigol i ffurfweddu'r system 
  • anghenion isadeiledd cysylltiedig 
  • galluoedd adrodd 
  • cydnawsedd â systemau eraill

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hymchwil, gadewch sylw neu e-bostiwch ni.