Pam ei fod yn bwysig

Mae defnyddio data yn foesegol yn allweddol wrth gadw'r defnyddiwr wrth wraidd eich penderfyniadau. Mae Fframwaith Moeseg Data Llywodraeth y DU yn fan cychwyn ar gyfer defnyddio egwyddorion data moesegol cyson a hyblyg ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. 

Pryd i'w ddefnyddio

Gallwch ei ddefnyddio wrth greu gwasanaethau digidol i ddylanwadu ar benderfyniadau a dangos sut yr ydych chi'n cydymffurfio â deddfwriaeth allweddol.

Sut y gall helpu

Mae'r fframwaith yn dangos sut i ddefnyddio data'n briodol ac yn gyfrifol yn y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach. Gall helpu gweision cyhoeddus i ddeall ystyriaethau moesegol, sut i fynd i'r afael â'r rhain yn eu prosiectau, ac annog arloesedd cyfrifol.

Sut mae'n gweithio

Mae'r fframwaith yn cynnwys 'egwyddorion cyffredinol' a 'chamau gweithredu penodol' i’ch tywys drwy'r broses a'ch helpu i ddeall y camau sydd eu hangen ar gyfer defnyddio data yn foesegol a chyfrifol.

Mae'n cynnwys cwestiynau i wirio’ch gweithgareddau arfaethedig yn erbyn yr egwyddorion hyn:

  • tryloywder
  • atebolrwydd
  • tegwch

Mae'n rhestru gweithgareddau penodol y gallwch eu sgorio o 0 i 5, fel y gallwch weld ble mae'ch sefydliad yn gwneud yn dda a ble y gall wella.

Defnyddio'r fframwaith yng Nghymru

Gall y fframwaith fod yn hyblyg, fel y gall gwahanol brosiectau a gwasanaethau ei ddefnyddio yn seiliedig ar eu hanghenion. 

Mae'r fframwaith yn argymell gweithgareddau sy'n cyd-fynd â'r mesurau diogelu data a llywodraethu presennol, gan ddod â'r rhain yn agosach at ddechrau'r broses ddatblygu.

Drwy ddangos sut y gall data gynnwys rhagfarnau sy'n parhau i greu anghydraddoldebau, mae'r fframwaith yn cefnogi nod llesiant Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol o greu 'Cymru fwy cyfartal'

Mae hefyd yn cyfeirio at fanylion llawlyfr gwasanaeth GDS am anghenion defnyddwyr ac yn cyfeirio at adnoddau'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, a thirwedd moeseg data sector cyhoeddus Cymru.

Ein hargymhelliad

Ar y pwnc hwn, mae'r Gweithgor Safonau Digidol yn argymell bod eich cynnyrch a'ch gwasanaethau yn cwrdd â phwyntiau 5 ac 11 o Safon Gwasanaethau Digidol Cymru. Bydd hyn yn sicrhau y gall pawb ddefnyddio'ch gwasanaeth a bod moeseg, data a diogelwch yn cael eu hystyried drwyddi draw.

Fel sefydliad cyhoeddus sy'n creu cynhyrchion a gwasanaethau gan ddefnyddio data, ystyriwch sut mae’r data a gasglwch yn effeithio ar foeseg gan ddefnyddio model y fframwaith i ddangos hyn.

Yn CDPS, rydyn ni’n disgwyl i dimau sy'n creu cynhyrchion a gwasanaethau egluro sut maen nhw’n ystyried moeseg data a dangos pa fframwaith y maen nhw'n ei ddefnyddio.