3 Rhagfyr 2021

Ers ein diweddariad diwethaf ar yr adolygiad tirwedd digidol, mae'r tîm wedi gwneud llawer iawn o waith gyda sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rydym wedi siarad â bron i gant o wahanol sefydliadau, a chyda thimau sy'n gyfrifol am ddarparu dros bum cant o wasanaethau.

Bwriad yr adolygiad tirwedd digidol yw datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyd a lled y wlad, er mwyn gosod blaenoriaethau yn well, gweld bel gallwn ddod â thimau a gwasanaethau at ei gilydd, a neilltuo buddsoddiad i'w gwella.

Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi dechrau dadansoddi’r data a chanfyddiadau cychwynnol o'n sgyrsiau. Fe wnaethon ni rannu rhagolwg o hyn yn ein sesiwn dangos a dweud ddiwethaf, a’n bwriad yw rhannu mwy rhwng nawr a'r Nadolig.

Ein prif ganfyddiad yw bod tua hanner cant y cant o'r timau rydyn ni wedi siarad â nhw yn ymwybodol o'r safonau gwasanaeth digidol ar gyfer Cymru, ac yn mynd ati i’w ddefnyddio. Mae CDPS yn gweithio gyda sawl sefydliad fel Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Chwaraeon Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru i'w helpu i fabwysiadu ac ymgorffori'r safonau gwasanaeth digidol, ac rydym yn recriwtio Pennaeth Safonau ar hyn o bryd fel y gallwn wneud mwy.

Profiad y defnyddiwr

Mae'r sefydliadau Rydym wedi siarad â nhw eisiau deall mwy am brofiadau'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Mae'r ffordd y mae hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn amrywio o sefydliad i sefydliad.

Dywedodd tua chwarter y rhai y gwnaethom siarad â nhw fod ganddyn nhw ymchwilydd defnyddiwr yn y tîm cyn i wasanaethau fynd yn fyw. Roedd hyn yn gostwng i 14% unwaith roedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Roedd gwaith ymchwil oedd yn arsylwi defnyddwyr (lle mae timau'n gwylio defnyddwyr go iawn wrth iddynt roi cynnig ar eu gwasanaeth), yn brin ac fel arfer yn cael ei wneud yn y cyfnod cyn-lansio.

Roedd arolygon cwsmeriaid yn gyffredin, ond unwaith eto, nid oeddent yn cael eu defnyddio'n rheolaidd ar ôl i'r gwasanaeth gael ei lansio.

Cynhwysiant digidol a hygyrchedd

Cawsom glywed am y gwahanol lefelau o sgiliau digidol yn y gymuned a hefyd bod sefydliadau eisiau sicrhau bod y gwasanaethau maen nhw’n eu dylunio a'u hadeiladu yn hygyrch i bawb, gan sicrhau nad yw’r digidol yn gadael neb allan. Gallai hyn gynnwys gwneud gwasanaethau'n ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf, ystyried sut mae'r rhai sydd â salwch, nam neu anabledd yn defnyddio gwasanaeth, neu feddwl sut y gallai rhai defnyddwyr ei chael hi'n anodd mynd ar-lein yn y lle cyntaf.

Er enghraifft, rydym wedi bod yn siarad gydag un sefydliad, sy’n cefnogi ceiswyr gwaith i gael mynediad i'r we. Roedden nhw hefyd yn darparu dyfeisiau digidol ar gynllun benthyciadau fel rhan o'r gwasanaeth hwn. Fe wnaethant ddarganfod nad oedd rhannau o'r gymuned, hyd yn oed y rhai â'r sgiliau digidol a'r offer angenrheidiol, eisiau symud ar-lein bob amser. Daeth deall pam a'u helpu i oresgyn pryderon yn rhan o'u gwasanaeth.

Effaith COVID-19

Mae'r newid i batrymau gwaith oherwydd y pandemig wedi effeithio ar yr holl dimau rydym wedi siarad gyda nhw. Mae symud staff i weithio o bell a newid eu model gweithredu, proses a fyddai fel arfer wedi cymryd misoedd os nad blynyddoedd i gynllunio a gweithredu wedi digwydd mewn cyfnod byr.

Soniodd llawer o sefydliadau am y penderfyniadau oedd yn eu hwynebu wrth geisio darganfod beth sy'n digwydd nesaf. Mae llawer yn disgwyl y byddant yn parhau i weithio yn hybrid, gyda mwy o weithio o bell neu wedi ei gyfuno gyda dychwelyd yn rhannol i'r swyddfa. Soniodd eraill am yr heriau o orfod symud o gyswllt wyneb yn wyneb â galwadau ffôn neu fideo.

O safbwynt cadarnhaol, clywsom fod bron pob gwasanaeth yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg a Saesneg ac roedd pwysigrwydd gwneud hynny yn thema gref. Mae mwy o waith i'w wneud ar hyn, ac roedd y diffygion o ran gweithredu yn cael eu cydnabod. Mae hwn yn faes arall lle rydyn ni’n CDPS eisoes yn gweithio i gefnogi trwy ein cymuned arfer adeiladu gwasanaethau dwyieithog.

Beth nesaf

Bydd ein sesiwn dangos a dweud nesaf ar y 7fed o Ragfyr. Gallwch weld recordiadau blaenorol yma ar sianel YouTube CDPS.

Fel bob amser, os ydych chi neu eich sefydliad eisiau bod yn rhan o’r gwaith yma, gallwch gysylltu â ni ar digitallandscapereview@digitalpublicservices.gov.wales